Tudalen:Llyfr Owen.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

coch, a gwyn. Ond, fel yr awn i fyny, ânt yn anamlach. Daw brwyn a chrawcwellt. Ond bron hyd derfyn y daith, gwelwn droadau prydferth y Corn Carw yn y glaswellt byr a llonnir ni gan wên siriol ar wyneb bychan euraidd Melyn y Gweunydd.

5. Mae'r adar yn newid. Y mae ein ffrindiau gyda godre'r mynydd,—y Fronfraith, yr Asgell Fraith, Tinsigl y Gŵys, a llu eraill. Fel yr awn i fyny, odid nad y Gwddw Gwyn a Chlep yr Eithin a Bronrhuddyn y Mynydd a welwn. Ond fel y cyrhaeddwn ben y mynydd, deuwn i gartref adar rhaib,—y genllif goch, aderyn y bod, a'r eryr ei hun amser a fu. Ar ben y mynydd, a'r llechweddau creigiog, serth, is ein traed, mwyn yw edrych ar wibiadau y genllif goch. Rhydd gylch ar ôl cylch odditanom, yna ymsaetha i fyny, yna ehed ar wib yn union atom fel pe ar ei hyrddio ei hunan arnom, ond cyn ein cyrraedd rhydd dro sydyn chwim, ac ymaith â hi drachefn fel saeth. Difyr iawn i ni yw gwylio ei champau; ond y mae'n ddychryn i adar eraill, oherwydd ni wyddant pa funud y disgyn yn sydyn arnynt, gan blannu ei hewinedd cryfion yn eu cnawd.

6. Y mae'r awyr yn newid fel yr awn i fyny. Erbyn cyrraedd pen yr Aran, ni wyddom beth yw lludded. Y mae'n corff fel pe wedi ysgafnhau, rhedwn heb flino, ac y mae'r ysbryd wedi colli ei flinder i gyd. Ar ben uchaf Aran Benllyn y mae llyn hyfryd o ddwfr. Gorwedd Llyn Pen yr Aran mewn padell o graig, a'i finion bron cyrraedd y