Tudalen:Llyfr Owen.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dibyn un ochr. Hyfryd yw eistedd ar ei lennydd gwyrddion, a theimlo yn awyr bêr y mynydd ein bod yn fwy o enaid nag o gorff.

Pam y cwyd Aran fawreddog yn uwch na'r bryniau o'i chylch? Am ei bod o ddefnyddiau caletach, rhai na fedr nerth y rhew na dyfalwch y glaw eu gwisgo ymaith ond yn rhyfeddol araf. Cerrig tân yw cribau bryniau'r Aran i gyd, a gellir casglu darnau prydferth o risial ymysg ei chreigiau. Ond y mae ganddi glog o garreg feddalach, rhyw lechen ddu, frau, am ei hysgwyddau.

Bu'r mynydd dan gynyrfiadau rhyfedd yn yr amser a fu. Dengys ffurf ei haenau hynny—y maent wedi eu gwasgu a'u plygu fel pe baent bapur. Dywed rhai mai hen losgfynydd oedd y ddwy Aran. Dan Aran Benllyn y mae Llyn Llynbren, ac o honno rhed Twrch i Ddyfrdwy islaw. Dan Aran Fawddwy y mae llyn Lleithnant, ac o honno ef y cychwyn afon Ddyfi.

Hir y cofir ymdaith i ben y mynydd,-ei olygfeydd eang, ei awyr ysgafn, a'r hoen a'r iechyd a geir yno.