Yr oedd wedi holi'r gŵr lawer tro, ond yr oedd hwnnw wedi bwrw dieithr, oherwydd ei fod yn drwgdybio'r porthmon. Yr oedd yn amser anodd cael gwaith, yr oedd y bwyd yn brin a drwg, yr oedd y rhyfel yn trymhau yn ein herbyn. Yr oedd y cynhaeaf wedi methu oherwydd y tywydd gwlyb, ac ofnid newyn yn y wlad. Er mwyn cadw bywyd ei deulu, aeth gŵr Ty'n y Gwrych gyda'r porthmon i yrru gwartheg teneuon i Loegr. Ffarweliodd â'i wraig a'i blant, gan addo dod yn ôl gyntaf y gallai.
3. Aeth misoedd heibio. Darfu haf a hydref, ac yr oedd gaeaf caled eto yn y cwm. Erbyn hyn yr oedd moddion y teulu wedi darfod, a'r plant yn dioddef eisiau bwyd. Ond disgwylient yn ffyddlon y deuai'r tad adref cyn hir.
Daeth ofn, hefyd, i'r bwthyn. Weithiau tybient glywed rhywun yn y tŷ ganol nos, yn troi a throsi popeth. Erbyn un bore, yr oedd carreg yr aelwyd wedi ei chodi, a phridd dros y llawr. Dro arall, clywent sŵn megis un yn ceibio yn yr ardd; a byddai yno beth tebyg i fedd newydd ei lenwi erbyn y bore.
Rhyw ddydd, daeth y porthmon yno. Wrth ei weld yn dod, llawenhaodd y plant, oherwydd tybient fod eu tad yn dod gydag ef. Ond newydd trist oedd ganddo. Yr oedd y tad wedi ei orfodi i ymuno â'r fyddin, wedi ei anfon dros y môr i Ffrainc, ac yno yr oedd yn ei fedd. Aeth y porthmon oddiyno gan adael y teulu yn nyfnder eu trallod.