Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth adref—os teilwng o'r enw "cartref," sef i Frynhyfryd, lle y gorweddai ei wraig rhwng byw a marw. Er nad oedd wedi bod yn holi am ei hiechyd fwy nag unwaith, eto aeth ati yn awr i ofyn pa beth a wnai—fod ei arian yn y bank wedi darfod bob ffyrling.

"Wedi myned i gyd, Llewelyn?" gofynai hithau mewn llais truenus ond mwyn.

"Bob dimai goch Loegr, myn ——— Morfudd!" oedd yr atebiad annynol. Aeth y wraig i grynu'n enbyd, tra y cerddai ei gŵr yn ol ac ymlaen ar hyd yr ystafell, hefo 'i ddwylaw yn ei boced a'i ben i lawr. Beiddiodd Morfudd Parri ofyn iddo pa beth a wnaeth a'r holl arian.

"Nid dyna'r pwnc yrwan!" ebe yntau. Y maent wedi myned, a'r hyn sy'n pwyso ar fy meddwl i yn awr, nid pa beth a fu, ond pa beth a fydd nid yr hyn a wnaethum, ond pa beth a allaf wneud. Ydych chwi ddim yn meddwl, pe y gyrech at eich mam, Morfudd, yr helpai hi ni?"

"Oh, Llewelyn!" ebe'r wraig—" pa fodd y gellwch fod mor galon galed a gofyn hynyna? Ni wn yn iawn a oes gan fy mam bunt i'w hebgor ai peidio; ond os oes, byddai yn dro annynol myned a ffyrling oddiar hen wraig weddw fel y hi. Heblaw hyny, yr wyf fi wedi dyoddef llawer er adeg genedigaeth y babi yma, o eisieu arian i geisio pethau anghenrheidiol; ond ni ofynais am ddimai i chwi na neb arall, rhag eich poeni!"

"Diolch yn fawr i chwi, Mrs. Parri," meddai ynteu. "Ond mi a wn beth a wnaf—gellwch wneyd eich meddwl i fyny i godi cyn gynted ag y galloch o'r gwely yna, o ran mi af i'r dref y mynyd yma, a gwnaf gytundeb hefo rhyw un i brynu'r dodrefn, a chym'ryd ein siawns wedi hyny. Yr wyf mewn dyled fawr, a rhaid i mi ei thalu neu ddyoddef myned i'r carchar!"

Ni fuasai neb ond dyn meddw yn medru siarad felly â dynes sal fel Morfudd Parri. Ac effeithiodd yr olygfa hon i'w thaflu yn is fyth—llewygodd y foment y gadawodd ei gŵr yr ystafell, a bu'r forwyn mewn pryder mawr, gan ofn na ddeuai'r druanes byth ati ei hun.

Ar ei ffordd i'r dref yn ol, daeth llawer cynllun i ymenydd dyryslyd Llewelyn, trwy ba rai y bwriadai allu talu ei ddyledion. Weithiau, bwriadai ymadael â phob peth ag oedd yn ei feddiant y fferm a'r hyn oll oedd ynddi; bryd arall meddyliai am wneyd cais i gael arian o rai o'r cymdeithasau benthyciol oeddynt yn dechreu codi eu penau; phryd arall, bwriadai ofyn am fenthyg arian gan Gwen ei chwaer. Ond fe chwelid y cestyll awyrol hyn; o herwydd