Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

borth yn y cylla, ar y fath noson annifyr! Gorchuddid y ddaear âg eira gwyn, a chlöwyd yr aberoedd â rhew caled. Ymlwybrai'r lloer yn entrych y nen, gan arianu bryn a dol, afon a llyn, â'i phelydrau oerion.

Safai dyn go dal, teneu, ar ochr y ffordd fawr, o fewn ychydig bellder i ddinas B———. Yr oedd ei ddillad yn deneuon a charpiog, ac yn gwbl anghyfaddas i gadw'i gorph yn gynhes ar y fath dywydd oer; crynai i gyd drosto fel cangau rhewedig yr hen fedwen unig sydd wrth ei ymyl; curai ei ddannedd yn erbyn eu gilydd nes gwneyd i'w gernau anafu; ac yr oedd goleuni'r lleuad yn ddigon i i ddangos fod ei wyneb yn dwyn argraph y diafl hwnw—Meddwdod. Yr oedd ei weled—a gweled ei drueni yn ddigon o bregeth i argyhoeddi byd o effeithiau melldigedig anghymedroldeb.

Y mae'r dyn yn siarad rhyngddo ag ef ei hun:" Y fath adyn wyf! Fy fferm—fy arian—fy iechyd—fy mharch—fy nghysur teuluaidd ydynt oll wedi cilio. Ni edrycha fy hen gyfeillion arnaf mwy na phe bawn dd——l, —cilia fy mhlant o fy ngwydd fel pe bawn lofrudd—edrycha fy ngwraig yn fy ngwyneb bob tro gwêl fi, yn y fath fodd truenus, torcalonus, nes gyru iâs o edifeirwch trwy'r galon gareg yma sydd yn fy mynwes. Yr wyf wedi pechu llawer—wedi pechu mwy nag y gall Duw na dyn faddeu i mi. Y fi yw Cain Cymru—nid wyf dda i ddim ond i wibio a chrwydro allan o olwg dynion. Oh, rhoddwn fyd am wydraid o ddïod i leddfu fy ing!"

Gadawn y dyn yna am ychydig, ac awn i edrych pa fodd y mae ei wraig yn ymdaro.

Mewn bwthyn gwael, anniddos, oer, fe eisteddai gwraig a dau o blant—geneth a bachgen. Buasai braidd yn anmhosibl canfod gwrthddrychau yn edrych mor druenus. Ysgubai y gwynt i fewn atynt trwy gant o rigolau; ac fel yr udai o gwmpas yr ystafell, fe ymsypiai'r fam a'r plant o gwmpas y tan bach a di wres. Llosgai canwyll ffyrling ar y bwrdd, yr hon oedd wedi ei stwffio i wddf potel inc. Mewn ystafell lofft yr oeddynt yn trigo, nen yr hon oedd yn rhy isel braidd i neb allu sefyll yn syth ynddi. Nid oedd yr un cwarel cyfan yn y ffenestr; ond fe lenwid rhai o'r tyllau â gwellt, carpiau, a phapur llwyd, tra yr oedd eraill heb eu llenwi o gwbl. Nid oedd yr un dodrefnyn gwerth ei godi o'r domen yn y lle—nac oedd, dim cymaint a gwely i orwedd ynddo—dim cadair nac ystôl, na bwrdd o fath yn y byd—yr oedd y lle yn berffaith wag o gyfryngau mwyaf cyffredin dedwyddwch teuluaidd. Mewn congl o'r ys-