tafell, yr oedd swp o wellt ag y gallai moch ysgornio arno; ond dyma oedd yr unig ddefnydd gorweddfa oedd gan y teulu tlawd. Buasai calon dyn neu ddynes go dyner yn gwaedu wrth feddwl fod rhai o blant dynion yn gorfod byw yn y fath le. Dangosai goleuni gwan y ganwyll wynebau llwydion yr anneddwyr. Ac yr oedd llygaid y fam yn llawn dagrau. Mae hithau'n siarad rhyngddi â hi ei hun:
"Ah! bychan a feddyliais ychydig flynyddoedd yn ol mai dyma fuasai'n dyfod o honof! Oh, y mae'r adgof o'r hyn a fum, a'r ymwybyddiaeth o'r hyn wyf, a'r ofnad o'r hyn a fyddaf, yn ddigon a thori fy nghalon. O, ddyddiau dedwyddion fy mabandod, chwi a'm gadawsoch am byth! Collais dad—mam—cartref, a—GWR, am ddim a wn i, o herwydd ni welais ac ni chlywais ddim am dano er's talm. Y mae'n rhaid ei fod un ai mewn yspyttý, neu mewn carchar, neu wedi marw? Oh, fel y carai ef fi pan oeddym ein dau yn ieuainc! Y fath ddedwyddwch[1] a deimlwn wrth gael arllwys teimladau fy nghalon iddo ef, ac wrth ei glywed yntau yn tywallt ymadroddion melus cariad ar fy nghlust i! Yr wyf yn awr yn cofio addewidion teg yr hwn a hawliai fy llaw a'm calon; a phwy a fuasai'n credu y troisai ef byth i ymddwyn ataf fi a'i rai bach mor greulon a hyn? Ei feddwdod ef a'm gwnaeth i yr hyn wyf. Gadewais gartref a golygfeydd fy ieuenctid, i fod yn wraig iddo. Yr wyf yn cofio fel pe na buasai wedi bod ond doe, fel y teimlwn ar fy mynediad i fyw i fy nghartref newydd, dan y titl o WRAIG. Oh feddwdod cythreulig!—ti a'm hysbeiliaist o bob peth oedd anwyl genyf ar yr hen ddaear yma, heblaw'r plant bach hyn; ac os parâ pethau'n hir eto fel y maent yn awr, ni fydd y rhai'n genyf ond am amser byr—nis gallant hwy na minau fyw ar y gwynt. Fy Nuw! fy Nuw! pa beth a ddaw o honom?"
Nid oes anghen dweyd pwy oedd y dyn truenus hwnw, na'r ddynes a'r plant hyn y mae'r darllenydd yn ddiau wedi dyfalu yn mhell cyn hyn, mai Llewelyn Parri, ei wraig a'i blant oeddynt.
Gellir dweyd yr hyn a gymerodd le mewn ychydig eiriau. Aeth Llewelyn yn mlaen i feddwi, a meddwi yn barâus, nes gwneyd ei hun heb ddimai ar ei elw, pan yr oedd ei ddyledion yn ddychrynllyd. Syrthiodd rhywrai ar ei bethau—gwerthwyd pob cerpyn, dodrefnyn, a thwlsyn a feddai ar ei fferm. Bu gorfod iddo fyned i fyw i'r dref, mewn heol gul, afiach, anmharchus, lle yr oedd ei wraig a'i blant yr adeg yma. Ceisiodd ei oreu i gael rhywbeth i'w
- ↑ cywiriad gweler "gwelliant gwallau" tud. xvi