Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llywelyn Parri.djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wneyd at gael tamaid—ond ni roddai neb yr ymddiried lleiaf ynddo. Yn ei drallod, diangodd o'r lle, gan adael i'w deulu ymdaro goreu gallent. Dychwelyd o'r ffoedigaeth yr oedd, pan welwyd ef yn sefyll ar ochr y ffordd fawr; ond ni wyddai yn iawn beth i'w wneyd—pa un ai myned a chwilio am ei deulu, ynteu cadw oddiwrthynt: ni feddai yr un dafn o gysur i'w roddi iddynt, a gwyddai na chai yntau ddim oddiwrthynt hwy.

Ond rhyngddo a'r hen heol gul honno yr aeth; a gwelwyd ef yn sefyll o flaen drws y tŷ, lle y gwelodd ei wraig a'i blant ddiweddaf. Clywai swn plentyn yn crio yn y llofft —clywai ddynes yn siarad yn y gegin—gwrandawodd, a deallodd y geiriau hyn yn cael eu dweyd gan y wraig oedd pia'r tŷ:

"Mae'n gas gan f' enaid i glywed plant y ddynes yna yn y llofft yn crïo ddydd a nos. Byddaf yn meddwl weithiau mai eisieu bwyd sydd arnynt. Ac yn wir, y mae eu golwg hwy a'u mam yn ddigon i ddangos hyny. Maent yn siwr o l'wgu os na ddaw rhywbeth iddynt o rywle cyn bo hir."

"Mi gaf lwgu i'w canlyn, ynteu!" ebe Llewelyn wrtho ei hun, ac aeth i fewn, ac i fyny'r grisiau heb ddweyd yr un gair wrth neb. Rhoddodd ei wraig ysgrech wrth ei weled, a llefai'r plant fel pe mewn ofn am eu bywyd, wrth weled y dyn a arferai eu lluchio a'u cicio yn ei gythreuligrwydd pan yn methu cael arian i brynu cwrw. Ychydig amser yn ol, buasai Morfudd Parri yn neidio â'i dwy law am wddf ei gŵr ar ei ddychweliad gartref; ond nis gallai wneyd hyny yn awr, yr oedd dygwyddiadau yr ychydig flynyddoedd diweddaf wedi dwyn cyfnewidiad ar bob peth. Ond eto, teimlai'r ddynes dirion ei bod yn ei garu; yr oedd yn dda ganddi nad oedd dim drwg mwy wedi dygwydd iddo. "Wel, mae'n debyg nad oeddych yn dysgwyl fy ngweled!" ebe Llewelyn.

Wylai Morfudd.

"Beth ydyw hwn?" gofynai drachefn, gan gymeryd gafael mewn rhywbeth tebyg i lythyr oedd ar y silff uwch ben tân.

"Llythyr a ddaeth yma heddyw'r boreu!" ebe Morfudd. Agorodd Llewelyn ef, a darllenai ynddo'r hyn a ganlyn:

"FY MRAWD LLEWELYN.—Wele dy chwaer yn ysgrifenu atat â llaw grynedig, o wlad bell, a chyn entro i wlad o ba un na ddaw byth yn ol. Yr wyf yn sâl—yn sâl iawn—wedi cael fy rhoi i fyny gan y meddyg fel heb obaith gwella. Ond y mae'n rhaid i mi