Cafwyd gwaith mawr cyfodi'r fam oddiar fedd bychan ei geneth. Yr oedd yn hwyr erbyn iddynt gyrhaedd y tŷ. Wedi eistedd o honynt am tuag awr ar ol eu dychweliad o'r cynhebrwng, daeth Sion William i'r tŷ. Nid oedd yn feddw yn awr, ond ysgydwai i gyd drosto fel deilen Hydref, dan effaith y "sbri" a gafodd. Yr unig achos nad oedd yn feddw yn awr oedd, ei fod heb arian i dalu am ddïod; ac nid gwragedd tai tafarnau yw y rhai a roddant eu heiddo i neb heb obaith da cael tâl cyflawn yn ol.
Nid oedd Sion Williams wedi tywyllu gorddrws ei dŷ byth ar ol y noson yr anfonodd ei ferch fechan i dragywyddoldeb mewn mynyd o gynddaredd. Nis gallasai ei wraig edrych ar ei wyneb hagr a'i gorph crynedig; ac nid oedd neb yn foddlon na pharod i dori ar y dystawrwydd pruddglwyfaidd a achosodd ei bresenoldeb yn y tŷ. Ond o'r diwedd, efe a daflodd ei lygaid o'r naill gongl i'r llall, a gofynodd,
"Lle mae Ann?"
Tebyg mai dyna'r peth oedd yn pwyso fwyaf ar ei feddwl. Pwy a ŵyr nad oedd rhyw fath o adgof am ei greulondeb yn ymwibio trwy ei fyfyrdodau yn nghanol ei ddïod? ac yn awr, tra yn sobr, yn pwyso ar ei galon fel plwm? Ond pa fodd bynag yr ymdeimlai, yr oedd yr holl wirionedd yn awr ar gael ei ddadlenu, er ei wae.
"P'le mae Ann bach?" gofynai drachefn.
"Mae hi wedi marw!" meddai ei wraig; "ac wedi ei chladdu hefyd!"
"Beth, beth?—wedi marw!—Ann wedi marw!" meddai, mewn tôn haner gwallgof.
"Ië, Sion William, wedi marw! Acy mae llaw greulon rhyw ddyn i fod yn atebol am ei hyspeilio o'i bywyd pan yn ddwyflwydd oed. Dichon nad yw'n werth genyt gofio dy ymddygiad ati'r noson o'r blaen. Pa fodd bynag, dyna i ti yr unig gysur a fedraf fi roddi, sef ei bod wedi marw—marw trwy greulondeb ei thad meddw—ti yw ei llofrudd!"
"Dduw mawr!" llefai'r dyn anffodus; "Beth yw hyn yr wyf yn ei glywed? Fy llaw i fy hun wedi anfon fy ngeneth bach i'r byd arall, i fod yn dyst gerbron gorseddfainc barn Duw o fy nghreulondeb i! A yw hi wedi myn'd i'r nefoedd i ddwyn ar gof i Dduw fy mhechod? Na! nid fi a'i lladdodd hi—Ann bach!—fy ngeneth ieuangaf!—fy anwyl Ann! Pwy feiddia ddyweyd mai y fi a'i lladdodd ?"
Syrthiodd ar y fainc, gan grynu i gyd drosto.
Yn awr, yr oedd yn rhywyr i ofnau eraill gael lle ar ei