feddwl. Y mae cyfiawnder i ymweled â llofruddion heblaw cyfiawnder y nef; a digon naturiol fuasai i Sion Williams ddechreu ofni cyfraith y tir erbyn hyn.
"Oes rhywun yn gwybod am hyn?" gofynai yn bryderus. "A achwynodd rhywun arnaf?"
Da iawn iddo oedd fod Mrs. Parri yn y tŷ'r pryd hwnw, yr hon a'i hatebodd, gan ddywedyd,
"Na, nid oes neb yn gwybod am y peth heblaw ni ein hunain. Yn awr, y mae genyf ammod i'w chynyg. Os gwnewch chwi addaw yn awr bod yn well dyn rhagllaw, a byw'n'n fwy cymedrol gyda 'ch gwraig a'r gweddill o'r plant, minau a addawaf gadw 'ch gweithred yn ddirgelwch. Ond y fynyd y torwch chwi eich addewid, caiff cyfiawnder cyfraith Lloegr afael ynoch. A ydych chwi yn foddlon i ymrwymo i beidio meddwi byth eto!" "Ydwyf," meddai Sion gyda braw.
"O'r goreu; boed i hon fod yn wers ofnadwy i chwi, Sion Williams; bob tro y daw'r gelyn i gynyg eich temtio, cofiwch beth y mae eich meddwdod wedi ei gostio i chwi bywyd un o'ch plant! Yn awr, yr wyf yn eich gadael chwi a'ch gwraig i ymheddychu â'ch gilydd, fel y barnoch oreu, gan weddio ar Dduw, am iddo yn ei drugaredd, faddeu i chwi eich troseddau."
Aeth Mrs. Parri gartref. Yr oedd Llewelyn bach yn dysgwyl am ei fam, a chroesawodd hi gyda chant o gusanau cynhesion. Cymerodd Mrs. Parri damaid o swper, ahwyliodd i fyned i'w gwely yn gynar y noson hono. Ond noson bur ddigwsg a gafodd hi. Methai yn ei byw a pheidio meddwl am Llewelyn a Gwen bach, eu tad, a llawer o bethau eraill. Gwelai ei phlant, yn enwedig y bachgen, yn mhob modd yn rhai gobeithiol dros ben. Ond yr oedd y rhagolygiadau heulog a daflodd i'r dyfodiant ychydig amser yn ol, yn awr yn dechreu cyfnewid yn gas; cymylau duon a ddechreuent ymgasglu dros awyrgylch ei rhagobeithion; pruddglwyfedd a dychryn a gymerai le prydferthwch a hapusrwydd. Nid oedd dim son y pryd hwnw am ddirwest, fel yn ein dyddiau ni. Nid oedd ganddi hithau yr un syniad pa fodd i attal ei Llewelyn bach, rhag myned i afael yr hyn y bu braidd i Mari Williams, yn ei gwallgofrwydd, ei ddymuno iddo. Ac yr oedd Ysbryd Ann bach hefyd, megys yn hofran o gwmpas ei gobenydd trwy'r nos, gan lefain, mewn llais egwan, am i ryw iawn gael ei wneyd, ac ymddangos yn anfoddlon i dderbyn iawn yn y byd, oddieithr addewid ddifrifol i wneyd y goreu at gael ymwared tragywyddol o'r gelyn sy'n dwyn y fath gyflafanau