Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bum mewn penbleth droeon faint a newidiwn,—a newidiwn pali yn "sidan," segur yn "ddiogel," madalch yn "fwyd llyffant," enaint yn "ymolchfa," hoff yn "rhyfedd," creu yn cut moch," cyfyl yn "terfyn," cyfarwyddyd yn "ystori," cyfoeth yn "frenhiniaeth,” cymdeithas yn "garedigrwydd," llawdyr yn "llodrau." Bum mewn penbleth hefyd beth a wnawn â geiriau y mae eu hystyr megis ar ganol newid, digrif, dwyn, gwawd, gwirion, direidi.

Nid i'r hanesydd, sy'n ceisio penderfynu faint o allu feddai'r tywysog a faint feddai ei deulu; nid i'r gramadegydd, sy'n gweled olion tafodiaith y wlad rhwng Teifi a Thywi yn y pedair mabinogi; nid i'r hynafiaethwr, sy'n gweled ynddynt lu o fân chwedlau wedi eu clytio wrth ei gilydd yn ddigon anghelfydd,— nid i'r rhain y cyhoeddir y Mabinogion mewn dull fel yma. I blant yn ein hysgolion, i deuluoedd ar yr aelwyd hirnos gaeaf, yr adroddir hwy y tro hwn.

J. M. EDWARDS.
Yr Ysgol Sir,
Treffynnon,
Gorffennaf, 1921.