Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pwyll, Pendefig Dyfed.

—————♦♦—————

DYMA DDECHREU Y MABINOGI

PWYLL, pendefig Dyfed, a oedd yn arglwydd ar saith gantref Dyfed. Ar ei dro yr oedd yn Arberth, prif lys iddo, a daeth i'w fryd ac i'w feddwl fyned i hela, Y rhan o'i dir a fynnai ei hela oedd Glyn Cuch, a chychwynnodd y nos honno o Arberth, a daeth hyd ym mhen Llwyn Fel yr aeth dau Frenin i hela Diarwyd. Ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth, yn ieuenctid y dydd, cyfodi a wnaeth, a dod i Lyn Cuch, i ollwng ei gŵn dan y coed. Canodd y corn, a dechreuodd yr hela, Cerddodd yn ol ei gŵn, a chollodd ei gymdeithion. Ac fel yr oedd yn ymwrando â llef y cŵn, efe a glywai lef cŵn eraill. Nid oeddynt unllef â'i gŵn ef, ac yr oeddynt yn dyfod yn eu herbyn. Ac efe a welai lannerch yn y coed o faes gwastad. Ac fel yr oedd ei gŵn ef yn ymgael âg ystlys y llannerch, efe a welai garw o flaen y cŵn eraill; a thua chanol y llannerch dyma y cŵn oedd ar ei ol yn ei ddal, ac yn ei fwrw i'r llawr. Yna edrychodd ar liw y cŵn, heb feddwl edrych ar y carw. Ac ar a welsai efe o helgwn y byd, ni welsai gŵn o'r un lliw a hwynt. A'r lliw oedd arnynt oedd claerwyn disglair, a'u clustiau yn gochion. Ac fel y disgleiriai gwynder y cŵn, y disgleiriaì cochder eu clustiau. Ac ar hynny at y cŵn y daeth, a gyrrodd y cŵn a laddasai y carw ymaith, a denu ei gŵn ei hun ar ol