y carw. Fel yr oedd yn denu ei gŵn, efe a welai farchog yn dod ar ol y cŵn ar farch erchlas mawr, a chorn canu am ei wddf, a gwisg o frethyn llwyd am dano yn wisg hela. Ar hynny daeth y marchog ato a dywedodd wrtho fel hyn,—
"Ha, unben, mi a wn pwy wyt, ac ni chyfarchaf i well i ti."
"Ie," ebe Pwyll, "feallai fod arnat gymaint o anrhydedd fel nas dyli."
"Dioer," ebe yntau, "nid teilyngdod fy anrhydedd a'm hatal i hynny."
"Ha, unben, beth amgen?" ebe Pwyll.
"Yn wir," ebe yntau, dy anwybod a'th ddiffyg moes dy hun."
"Pa ddiffyg moes, unben, a welaist arnaf fi?"
"Ni welais ddiffyg moes mwy ar ŵr erioed," ebe yntau, "na gyrru'r cŵn a ddaliodd y carw ymaith, a denu dy gŵn dy hun arno. Hyn oedd ddiffyg moes, ac er na ddialaf arnat, yn wir, mi a wnaf o anghlod i ti werth can carw."
"O unben, os gwnaethum gam, mi a brynnaf dy faddeuant," ebe Pwyll.
"Pa ddelw y prynni ef?" ebe yntau.
"Wrth fel y bo dy anrhydedd. Ac ni wn i pwy wyt ti."
"Brenin coronog wyf fi yn y wlad yr hannwyf ohoni."
Dydd da i ti, arglwydd," ebe yntau, a pha wlad yr henni ohoni?"
"O Annwn. Arawn, brenin Annwn, wyf fi."
"Pa ffurf, arglwydd," ebe Pwyll, y caf fi dy faddeuant di? "
"Dyma'r wedd y ceffi hi," ebe yntau. "Y mae gŵr sydd a'i dir gyferbyn a'm tir innau yn rhyfela yn wastad