Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fy erbyn. Sef yw hwnnw, Hafgan, brenin o Annwn. A thrwy wared gormes hwnnw oddi arnaf fi, a hynny a elli di yn hawdd, y ceffi fy maddeuant."

"Minnau a wnaf hynny yn llawen," ebe Pwyll, mynega dithau i mi pa ffurf y gallaf wneud hynny."

"Mynegaf," ebe yntau, dyma fel y gelli. Mi a wnaf â thi gymdeithas gadarn. Dyma fel y gwnaf. Mi a'th roddaf di yn fy lle i yn Annwn, a rhoddaf fy ffurf a'm pryd arnat, hyd na bo gwas ystafell na swyddog nac un dyn a'm canlynodd i erioed a wypo mai nid myfi fyddi di, a hynny hyd ymhen y flwyddyn o'r dydd yfory, pryd y cyfarfyddwn yn y lle hwn."

"Ie," ebe Pwyll, "ond er i mi fod yno am flwyddyn, pa gyfarwydd a fydd i mi i ymgael â'r gŵr y sonni amdano?"

"Blwyddyn i heno," ebe ef, "y mae cyfarfod i fod rhyngddo ef a mi ar y rhyd. A bydd di yno yn fy rhith i. Un ddyrnod a roddi di iddo ef, ac ni bydd byw ohoni. Ac os gofyn efe am ail ddyrnod i ti, na ddyro er a ymbilio â thi; er a roddwn i iddo drachefn, ymladdai â mi drannoeth gystal a chynt."

"Ie," ebe Pwyll, "ond beth a wnaf â'm teyrnas fy hun?"

"Mi a wnaf," ebe Arawn, "na fydd gŵr na gwraig yn dy diriogaeth yn gwybod mai nid tydi wyf fi." Myfi a af i'th le di yn llawen," ebe Pwyll, "mi a af rhagof."

"Dilestair fydd dy hynt, ac ni rusia dim rhagot hyd oni ddeui i'm teyrnas i, a mi a fyddaf hebryngydd i ti."

Ac efe a'i hebryngodd oni welodd y llys a'r cyfannedd.

Dyma y llys a'r tir," ebe ef, "i'th feddiant, dos tua'r llys, nid oes yno neb ni'th adnabo. Ac wrth fel y gwelych y gwasanaeth ynddo yr adnabyddi foes y llys."