Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebe Pwyll, "pan y deui i'th wlad dy hun, ti a weli a wnaethum drosot."

"Am a wnaethost drosof," ebc yntau, "Duw a dalo i ti." Yna y rhoddodd Arawn ei ffurf a'i ddull ei hun i Bwyll, Pendefig Dyfed, a chymerodd yntau ei ffurf a'i ddull ei hun. Ac yna y cerddodd Arawn tua'i lys yn Annwn, a bu digrif ganddo ymweled â'i deulu a'i wŷr, canys nis gwelsai hwy er ystalm; ni wybuasent ei eisiau ef, ac ni bu newyddach ganddynt ei ddyfodiad y tro yma mwy na thro arall. Y dydd hwnnw a dreuliwyd mewn digrifwch a llawenydd. Ac eistedd ac ymddiddan a wnaeth Arawn a'i wraig a'i wŷr-da.

Yntau Pwyll, Pendefig Dyfed, a ddaeth i'w wlad a'i derfynau; a dechreuodd ymofyn â gwŷr-da y wlad beth a fuasai ei lywodraeth ef arnynt hwy y flwyddyn honno mewn cymhariaeth i'r hyn a fu cyn hynny.

"Arglwydd," ebe hwy, "ni fu dy wybod yn fwy, ni fuost hygared gŵr, nac mor hawdd gennyt roddi rhoddion, ac ni fu well dy wladweiniaeth erioed na'r flwyddyn hon."

Yn wir," ebe yntau Pwyll, os iawn o beth i chwi ddiolch, diolchwch i'r gŵr a fu gyda chwi, a dyma yr ystori fel y bu." A datgan yr oll a wnaeth Pwyll iddynt.

"Ie, arglwydd," ebe hwy, " diolch i Dduw am i ti gael y cyfeillgarwch hwnnw, ac na ddwg oddi arnom ninnau y lywodraeth a gawsom y flwyddyn honno."

"Ar a allaf, yn wir," ebe yntau Pwyll, "nis dygaf hi." Ac o hynny allan dechreu cadarnhau cyfeillgarwch rhyngddynt a wnaeth y ddau frenin, ac anfon pob un i'w gilydd feirch, a milgwn, a hebogau, a phob cyfryw dlws a debygai pob un a foddhai feddwl y llall. Ac o achos ei drigiant y flwyddyn honno yn Annwn, a lywodraethu ohono mor lwyddiannus, ac uno y ddwy