Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebe Pwyll, "dos, dos i'r llys, a chymer y march cyflymaf a weli, a dos rhagot ar ei hol."

Y march a gymerth, a rhagddo yr aeth, a maes—dir gwastad a gafodd. Yspardynodd ei farch, a pha fwyaf y tarawai ef y march, pellaf fyddai hithau oddiwrtho ef, er mai yr un gerdded oedd ganddi ag yn y dechreu. Ei farch a ballodd. A phan welodd ef fod cerddediad ei farch yn pallu, ef a ddychwelodd hyd y lle yr oedd Pwyll.

Arglwydd," ebe ef, "ni thycia i mi ymlid yr unbennes acw. Ni wyddwn i am farch cyflymach yn y wlad na hwn, ac ni thyciai i mi ei hymlid hi."

"Ie," ebe Pwyll, "y mae yna ryw hud neilltuol, awn tua'r llys."

I'r llys y daethant, a threuliasant y dydd hwnnw. A thrannoeth cyfodi a wnaethant, a threulio hwnnw hyd nes oedd yn amser myned i fwyta, ac wedi y bwyta cyntaf,—

"Ie," "ebe Pwyll, "ni a awn yr un nifer y buom ddoe i ben yr orsedd; a thydi," ebe ef wrth un o'r gweision, "dwg y march cyflymaf a wyddost amdano yn y maes." A hynny a wnaeth y gwas. Tua'r orsedd yr aethant, a'r march ganddynt. Ac fel yr oeddynt yn eistedd, hwy a welent y wraig ar yr un march, a'r un wisg am dani, yn dyfod yr un ffordd.

"Dyma y farchoges a welsom ddoe," ebe Pwyll. Bydd barod, was," ebe ef, "i wybod pwy yw hi."

Arglwydd," ebe yntau, "mi a wnaf hynny'n llawen."

Ac ar hynny daeth y farchoges gyferbyn â hwy.

Fel y carlamodd PwyllA hyn a wnaeth y gwas,—esgyn ar ei farch; a chyn iddo ddarfod eistedd ar ei gyfrwy yr oedd y farchoges wedi myned heibio, a chryn bellter rhyngddynt, ond brys gerdded nid oedd ganddi mwy na'r dydd cynt. Yntau a duthiodd ei farch, a thebygai er arafed