Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Chware Broch yng nghôd," ebe hwythau. Dyma pryd y chwareuwyd "Broch yng nghôd " gyntaf.

'Arglwydd," ebe'r gŵr o'r god, pe gwrandewit fyfi, nid wyf yn haeddu fy nghuro mewn côd."

"Gwir a ddywed," ebe Hefeydd Hen, "iawn yw it ei wrando, ni haedda hyn."

"Ie," ebe Pwyll, "mi a wnaf dy gyngor amdano ef."

'Dyma fy nghyngor," ebe Rhianon. "Yr wyt yn y lle y perthyn arnat lonyddu y rhai sydd yn gofyn dy ffafr a'r cerddorion. Gad iddo ef roddi i bawb drosot," ebe hi, "a chymer ymrwymiad ganddo na bo ymofyn na dial byth amdano. Digon yw hynny o gosb arno."

"Efe a gaiff hynny yn llawen," ebe'r gŵr o'r god.

"Minnau a'i cymeraf yn llawen," ebe Pwyll, os dyna gyngor Hefeydd a Rhianon."

Hynny yw ein cyngor ni," ebe hwynt.

"Cymeraf ef," ebe Pwyll, "cais feichiau drosot."

"Ni a fyddwn drosto," ebe Hefeydd, "hyd oni fydd ei wyr yn rhydd i fyned drosto."

Ar hynny, gollyngwyd ef o'r gôd a rhyddhawyd ei oreu-wyr.

"Gofyn weithion i Wawl am feichiau," ebe Hefeydd, "ni a adwaenom y neb y dylid eu cymryd ganddo."

Enwodd Hefeydd y meichiafon. "Llunia dy amod dy hun," ebe Gwawl.

Digon yw gennyf fi fel y lluniodd Rhianon," ebe Pwyll.

"Ie, arglwydd," ebe Gwawl, "briwedig wyf fi, a doluriau mawr a gefais, ac y mae yn rhaid i mi wrth enaint, ac ymaith yr af os caniatei. A mi a adawaf wyr-da yn y lle yma i ateb pawb ar a'th ofynno."

Yn llawen," ebe Pwyll, a gwna dithau hynny."