Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ha ŵr," ebe Bendigaid Fran, "nid wyt gystal ymddiddanwr heno ac un nos; os bychan yw gennyt dy iawn, ti a gei ychwanegu ato a fynni dy hun. Yfory talaf i ti dy feirch,"

"Arglwydd, Duw a dalo i ti," ebe Matholwch. "Mi a ychwanegaf dy iawn, hefyd," ebe Bendigaid Fran, "mi a roddaf bair iti. A rhinwedd y pair yw,—y gŵr a ladder heddyw, i ti ei fwrw i'r pair, ac erbyn y fory bydd yn gystal ag y bu ar ei oreu, eithr na bydd lleferydd ganddo."

Diolch a wnaeth Manawyddan iddo a dirfawr lawenydd a gymer ynddo o'r achos hwnnw. A thrannoeth y talwyd ei feirch iddo tra y parhaodd meirch dof; ac oddiyno aethant gydag ef i gwmwd arall, ac y talwyd ebolion iddo, hyd y talwyd y cwbl. Ac am hynny y dodwyd ar y cwmwd hwnnw, o hynny allan, yr enw Tal Ebolion.

A'r ail nos eistedd i gyd a wnaethant. Arglwydd," ebe Matholwch, "o ble y daeth iti y pair a roddaist i mi ?"

"Daeth i mi," ebe yntau, "oddiwrth ŵr fu yn dy wlad di, ond nis gwn ai yno y cafodd efe ef."

"Pwy oedd hwnnw?" ebe ef.

"Llasar Llaesgyfnewid," ebe ef, "a hwnnw a ddaeth yma o Iwerddon, a Chymidau Cymeinfoll ei wraig gydag ef, a diangasant o'r tŷ haearn yn Iwerddon pan wnaethpwyd ef yn wynias o'u hamgylch, ac y diangasant oddiyno. A rhyfedd yw gennyf oni wyddost ti ddim am hynny."

"Gwn, arglwydd," ebe ef, "a chymaint ag a wn mi a'i mynegaf i ti. Yn hela yr oeddwn ddyddgwaith yn Iwerddon, ar ben gorsedd a oedd uwchben llyn yn Iwerddon. A Llyn y Pair y galwyd ef. A mi a welwn ŵr melyngoch mawr yn dyfod o'r llyn, a phair ar ei