Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Beth yw y coed a welid ar y môr?" ebe hwy.

Gwernenau llongau a hwylbrenni," ebe Branwen.

"Och," ebe hwy, "beth oedd y mynydd a welid wrth ystlys y llongau?"

"Bendigaid Fran, fy mrawd i," ebe hi, "oedd hwnnw yn dyfod i'r dwfr maes. Nid oedd long ddigon o faint iddo."

"Beth oedd yr ochr aruchel, a'r llyn o bob tu i'r ochr?"

"Efe yw," ebe hi, yn edrych yn llidiog ar yr ynys hon. Ei ddau lygad o bob tu i'w drwyn yw y ddau lyn o bob tu i'r ochr."

Ac yna casglu holl wyr ymladd Iwerddon a wnaethant, ynghyda'r holl fôr-benaethiaid yn gyflym. A chyngor a gymerwyd.

"Arglwydd," ebe ei wŷr-da wrth Fatholwch, "nid oes gyngor ond cilio dros Linon—afon oedd yn Iwerddon—a gadael Llinon rhyngot ti ag ef, a thorri y bont sydd ar yr afon. A meini sugn sydd yng ngwaelod yr afon, ac ni eill na llong na llestr ei nofio."

Hwy a giliasant dros yr afon ac a dorasant y bont.

Bendigaid Fran a ddaeth i'r tir, a'i lynges gydag ef, tua glan yr afon.

Arglwydd," ebe ei wŷr-da, "ti a wyddost natur yr afon. Ni eill neb fyned trwyddi. Nid oes bont arni hithau. Beth yw dy gyngor am bont? ebe hwy.

"Nid oes gennyf gyngor," ebe yntau, "ond, 'a fo ben bydded bont.' Myfi a fyddaf bont."

A'r pryd hwn y dywedwyd y gair hwnnw, ac y mae'n ddihareb eto. Ac wedi iddo orwedd ar draws yr afon, bwriwyd clwydau arno, ac aeth ei luoedd drosto i'r ochr arall. A chydag iddo godi, dyma genhadon Matholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo, ac yn ei annerch oddiwrth Fatholwch ei gyfathrachwr, a mynegi na