Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

goreu yn y dref, a pharodd iddo wneud byclau esgidiau ac euro y byclau, ac edrychodd arno nes y dysgodd eu gwneud ei hun,—ac o achos hynny y gelwid ef yn drydydd eur-grydd. Tra ceffid esgid neu hosan ganddo ef, ni phrynnid dim gan grydd yn yr holl dref. Canfu y cryddion fod eu hennill yn pallu iddynt, canys fel y lluniai Manawyddan y gwaith, y gwniai Pryderi.

Daeth y cryddion i gymryd cyngor, ac yn eu cyngor penderfynwyd eu lladd.

"Pryderi," ebe Manawyddan, "y mae y gwŷr hyn yn mynnu ein lladd."

"Paham y cymerwn ninnau hynny gan y taeogiaid lladron," ebe Pryderi, lladdwn hwy oll."

"Nage," ebe Manawyddan, "nid ymladdwn â hwy, ac ni fyddwn yn Lloegr yn hwy. Cyrchwn tua Dyfed, ac awn i'w hedrych."

Pa hyd bynnag y buont ar y ffordd, hwy a ddaethant i Ddyfed, ac Arberth a gyrchasant. Cynneu tân a Fel y collwyd Pryderi wnaethant, a dechreu ymborthi a hela, a threulio mis felly. A chynullasant eu cŵn atynt, gan fod felly flwyddyn. A bore gwaith cododd Manawyddan a Phryderi i fyned i hela, a threfnu eu cŵn a myned oddiwrth y llys. Sef a wnaeth rhai o'r cŵn,— cerdded o'u blaen, a myned i berth fechan oedd ger eu llaw, a chydag yr aethant i'r berth, cilio yn ol yn gyflym a'u gwrychyn i fyny, a dychwelyd at y gwŷr.

Neshawn," ebe Pryderi, "tua'r berth i edrych beth sydd ynddi."

Neshau tua'r berth a wnaethant, a phan nesasant, dyma faedd coed claerwyn yn codi o'r berth. Hyn a wnaeth y cŵn, y gwyr yn hannos,—rhuthro arno. Hyn a wnaeth yntau,—gadael y berth a chilio encyd oddiwrth y gwŷr. A hyd nes byddai y gwŷr yn agos