Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo, cyfarthai ar y cŵn, heb gilio erddynt; ond pan agoshai y gwŷr, ciliai eilwaith a pheidiai gyfarth.

Ac ar ol y baedd y cerddasant hyd oni welent gaer fawr aruchel, a gwaith newydd arni, mewn lle na welsent na maen na gwaith erioed. A'r baedd a redodd yn fuan i'r gaer, a'r cŵn ar ei ol.

Ac wedi myned y baedd a'r cwn i'r gaer, rhyfeddu a wnaethant weld y gaer yn y lle ni welsent erioed waith cyn hynny.

Ac o ben yr orsedd edrych a wnaethant, ac ymwrandaw am y cŵn. Pa hyd bynnag y byddent felly, ni chlywent un o'r cŵn, na dim oddiwrthynt.

"Arglwydd," ebe Pryderi, "mi a af i'r gaer i holi ynghylch y cŵn."

"Yn wir," ebe yntau, nid da dy gyngor fyned i'r gaer hon nas gwelaist erioed, ac os gwnei fy nghyngor i, nid ei iddi; a'r neb a ddodes hud ar y wlad a beris fod y gaer yma.'

"Yn wir," ebe Pryderi, "ni fynnaf golli fy nghŵn."

A pha gyngor bynnag a gai gan Fanawyddan, i'r gaer yr aeth efe. Pan ddaeth i'r gaer, ni welai ynddi na dyn nac anifail, na'r baedd, na'r cŵn, na thy nac annedd. Ef a welai tua chanol llawr y gaer, ffynnon a gwaith o faen marmor o'i chylch; ac ar lan y ffynnon gawg aur uwchben llech o faen marmor, a chadwynau yn estyn tua'r awyr, a diwedd nis gwelai arnynt. Ac ymhyfrydu a wnaeth yntau gan deced yr aur, a chyn ddaed y gwaith. A dyfod a wnaeth hyd at y cawg ac ymafael ag ef. Ac fel yr ymafaelodd â'r cawg, glynodd ei ddwylaw wrth y cawg a'i draed wrth y llech yr oedd y cawg yn sefyll arni; a chymerwyd ei leferydd oddi arno, fel nas gallai ddywedyd un gair. A sefyll a wnaeth felly.