"Paham?" ebe yntau. "Beth a weli arnaf?"
"Gwelaf golli o honot dy bryd a'th liw,—a pha beth a ddigwyddodd iti?"
"Arglwydd frawd," ebe ef, "ni ffrwytha i mi addef i neb yr hyn a ddigwyddodd i mi."
"Beth yw, frawd?" ebe yntau.
"Ti a wyddost," ebe ef, gynneddf Math fab Mathonwy, pa sibrwd bynnag, er bychaned a fo rhwng dynion, os cyfarfyddo y gwynt âg ef, efe a'i gwybydd."
"Ie," ebe Gwydion, "taw di bellach. Mi a wn dy feddwl di,—caru Goewin yr wyt ti."
A phan wybu Gilfaethwy wybod o'i frawd ei feddwl, dododd ochenaid drymaf yn y byd.
"Taw, enaid, a'th ocheneidio," ebe ef, "nid felly y gorfyddir. Minnau a baraf, canys ni ellir heb hynny, gynnull Gwynedd, a Phowys a'r Deheubarth, i geisio y forwyn. A bydd lawen di, a mi a'i paraf iti."
Wedi hynny, aethant at Fath fab Mathonwy. "Arglwydd," ebe Gwydion, "mi a glywais ddyfod i'r Deheu ryw bryfed na fu yn yr ynys hon erioed."
"Beth yw eu henw hwy?" ebe ef.
"Hobeu, arglwydd."
"Pa fath anifeiliaid yw y rhai hynny?"
"Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion. Bychain ydynt, ac y mae arnynt fwy nag un enw,— moch y gelwir hwy weithiau."
Pwy piau hwy?"
Pryderi fab Pwyll. Anfonwyd hwy iddo o Annwn, gan Arawn, brenin Annwn." (Ac yr ydym eto yn cadw o'r enw hwnnw hanner hwch, hanner hob).
"Ie," ebe ef, "pa fodd y ceir hwy ganddo?"
"Mi a af yn un o ddeuddeg, arglwydd, yn rhith beirdd, i erchi y moch."