Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mhowys, a elwir ar ol hynny Mochnant. buont y nos honno. Ac oddi yno cerddasant hyd yng nghantref Rhos, ac yno y buont y nos honno mewn tref a elwir eto Mochdref.

"Ha wŷr," ebe Gwydion, "ni a gyrchwn gadernid Gwynedd â'r anifeiliaid hyn. Mae un yn ymfyddino yn ein hol." A chyrchasant y dref uchaf yn Arllechwedd. Ac yno y gwnaethant greu i'r moch, ac ar ol hynny y galwyd y dref Creuwyrion. Ac wedi gwneuthur y creu i'r moch, aethant i Gaer Dathl, at Fath fab Mathonwy. A phan ddaethant yno, yr oeddis yn cynnull y wlad.

"Pa newyddion sydd yma?" ebe Gwydion.

"Cynnull y mae Pryderi," ebe hwy, "ar eich hol chwi un cantref ar hugain. Rhyfedd i chwi fod mor hir yn cerdded."

"Pa le mae'r anifeiliaid yr aethoch yn eu cylch?" ebe Math.

"Y maent wedi gwneuthur creu iddynt yn y cantref arall isod," ebe Gwydion.

Ar hynny, clywent yr utgyrn a'r ymgynnull yn y wlad. Yna gwisgasant hwythau eu harfau ac aethant hyd ym Mhennardd, yn Arfon. A'r nos honno dychwelodd Gwydion, fab Don, a Chilfaethwy ei frawd, i Gaer Dathl, at Goewin. A gwnaeth Gwydion i Goewin briodi Gilfaethwy y noson honno.

Pan welsant y dydd drannoeth, aethant i'r lle yr oedd Math fab Mathonwy a'i lu. Ac yr oedd y gwŷr hynny yn myned i gymryd cyngor pa du yr arhosent Pryderi a gwŷr y Deheu; ac i'r cyngor yr aethant hwythau. Ac yn y cyngor penderfynasant aros yng nghadernid Gwynedd, yn Arfon. Ac ynghanol y ddwy faenor yr aroshasant, maenor Pennar, a maenor Coed Alun. Pryderi a ddaeth i'w herbyn hwy, ac yno y bu brwydr, a lladdwyd nifer fawr o bob ochr, a bu raid i wyr y Deheu