Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac yna y daeth hi hyd y llong; a phan ddaeth, yr oedd ef yn ilunio a'r mab yn gwnio.

"Ie, arglwyddes," ebe ef, "dydd da it."

"Duw a roddo dda it," ebe hithau. "Rhyfedd yw gennyf na fedri gymedroli ar wneuthur esgidiau wrth fesur."

"Ni fedrais," ebe yntau, "mi a fedraf yn awr."

Ac ar hynny, dyma ddryw yn sefyll ar fwrdd y llong.

Sef a wnaeth y mab, bwrw ergyd, a'i daraw rhwng gewyn ei goes a'r asgwrn.

Sef a wnaeth hithau chwerthin,—

"Yn wir," ebe hi, "â llaw gyffes y tarawodd y llew ef."

"Ie," ebe yntau, "aniolch Duw iti, fe gafodd y mab enw, a da ddigon yw'r enw. Llew Llaw Gyffes yw bellach."

Ac yna diflannodd y gwaith, yn hesg ac yn wymon, ac ni chanlynodd efe y gwaith yn hwy na hynny. Ac o achos hynny y gelwid ef yn drydydd eurgrydd.

"Yn wir," ebe hi, "ni byddi di well o fod yn ddrwg wrthyf fi."

"Ni fum ddrwg eto wrthyt ti," ebe ef.

Ac yna y gollyngodd ef y mab i fod yn ei bryd ei hun.

"Ie," ebe hithau, "minnau a dyngaf dynged i'r mab hwn,—na chaffo arfau byth oni wisgwyf fi am dano." "Yn wir," ebe ef, "er a ddêl o'th ddireidi, efe a gaiff arfau."

Yna y daethant hwy parth a Dinas Dinllef. Ac yno meithrinwyd Llew Llaw Gyffes oni allai farchogaeth Fel y cafodd Llew Llaw Gyffes arfaupob march, ac onid oedd gyflawn o bryd, a thwf a maint. Ac yna adnabu Gwydion arno ei fod yn dihoeni o eisiau meirch ac arfau; a galwodd ef ato.

"Ha was," ebe ef, "ni awn, fi a thi, i neges yfory; a bydd lawenach nag ydwyt."