"Ha was," ebe ef, "a ddaeth dy hwch di heno i mewn?"
"Daeth," ebe yntau, "yr awr hon y daeth at y moch." "Pa ryw gerdded," ebe Gwydion, "y sydd ar yr hwch honno?"
"Pan agorir y creu, beunydd yr a allan. Ni cheir craff arni, ac ni wybyddir pa ffordd yr a mwy na phe'r elai i'r ddaear."
A wnei di," ebe Gwydion, "erof fi, nad agorych y creu oni fyddwyf fi yn y naill ben i'r creu gyda thi?"
"Gwnaf yn llawen," ebe ef.
I gysgu yr aethant y nos honno, a phan welodd gwas y moch liw dydd, efe a ddeffrôdd Gwydion. A chyfodi a wnaeth Gwydion a gwisgo am dano, a dyfod gyda gwas y moch a sefyll wrth y creu, a chydag iddo ei agor, dyma hithau yn bwrw naid allan, a cherdded yn gyflym a wnaeth. A Gwydion a'i canlynodd. A chymryd gwrthwyneb afon a wnaeth, a chyrchu nant a elwir yn awr Nant y Llew. Ac yno gwastadhau a wnaeth a phori. Yntau Gwydion a ddaeth dan y pren, ac a edrychodd pa beth yr oedd yr hwch yn ei bori, ac ef a welai yr hwch yn pori cîg pwdr a chynron. Sef a wnaeth yntau edrych i frig y pren; a phan edrychodd, ef a welai eryr ym mrig y pren; a phan yr ymysgydwai yr eryr y syrthiai y pryfed a'r cîg pwdr ohono, a'r hwch yn ysu y rhai hynny. Sef a wnaeth yntau meddwl mai Llew oedd yr eryr, a chanu englyn,—
"Dar a dyf y rwng deu lenn.
Gorduwrych awyr a glen.
Ony dywetaf i eu ovlodeu.—
Llew pan yw hynn."
- ↑
"Derwen a dŷf rhwng dau lyn,
Gorddu-wrych yw awyr a glyn ;
Oni ddywedaf am ei blodau,—
Llew yw y rhai hyn?"