"Mi wn yn dda, ac mi ŵyr pawb arall, dy fod di wedi bod yn gybydd. A does dim galw am i ti 'nghadw i yn y fan yma i'm hysbysu o hynny." Gwnaeth Nanni ymgais i chwerthin, ond ymgais wael ydoedd. Dweud yr
"Paid â bod mor finiog dy dafod. oeddwn i 'mod i wedi bod yn fforddiol a chynnil ar hyd fy oes, ac mi fedraf ddweud heddiw 'mod i 'n gyfoethog hefyd. Yn gyfoethog iawn, Nanni!"
Ni farnodd hi bod eisiau ateb hynny, na sylwi ar y peth ymhellach;
ymhellach; ond aeth Wil ymlaen â'i ymffrost.
"Gall y synnet ti petawn i 'n dweud y medrwn brynu yswain Cymunod a'i ystad i gyd er cymaint gŵr ydyw."
"Gad di lonydd i'r yswain nad oes a wnelot ti ddim a fo."
Er ei fod wedi addo iddo'i hun y cadwai ei dymer o dan reol am y tro, methodd Wil beidio a bradychu'r casineb a deimlai tuag at yr yswain, a dangosodd ef drwy un o'i regfeydd arferol. Ond aeth ymlaen wedyn.
"Oes, mae gen i ddigon o foddion i godi plasdy i mi fy hun, ac i fyw'n segur o hyn allan."
Rhwydd hynt i ti efo d' aur a'th blasdy, Wil. Mae'n rhaid i mi fynd yn fy mlaen."
Aros funud bach, Nanni, a phaid â bod mor ddi—bwyll. Nid wyt ti ddim wedi gadael i mi ddarfod fy stori. Mi fydd arnaf eisio gwraig yn fy mhlasdy. A phwy ond yr hen Nanni Allwyn Ddu?"
Ar hyn gwnaeth symudiad i afael yn ei llaw. Ond neidiodd Nanni o'i ffordd fel petai'r gwahanglwyf arno. Rhyw nwyd gynhenid a wnaeth iddi ei anghofio'i hun. Ac ni allai beidio. Yn wir, yr oedd yn edifarhau y munud nesaf am ddangos gwendid."
Gwelodd yntau'r symudiad yn eglur iawn. Ac yr oedd y dicter a deimlai yn amlwg yn ei wedd. Nid oedd wedi meddwl y buasai perswadio Nanni i'w briodi yn waith hawdd. Ond credai y byddai ei gyfoeth yn y diwedd yn anogaeth. Ac yn sicr nid oedd wedi