Prynhawn drannoeth dychwelai Nanni o neges yn Nhafarn y Cwch, lle nad oedd neb gartref ar y pryd ond Siôn Ifan a'r hen wraig. Yr oedd y syniad bod rhyw ddrwg ar ddigwydd yn parhau yn llond ei meddwl. Pryderai lawer. Dyna un rheswm paham y teimlai demtasiwn i grwydro heibio bwthyn Wil. Hwyrach mai rheswm arall oedd rhyw obaith egwan y canfyddai ar ei thaith rywbeth a fyddai'n "brawf i Madam Wen, ac a fyddai'n foddion i gadarnhau ei gosodiadau hi ei hun. Sut bynnag, fel y pryf at y gannwyll, aeth Nanni at y bwthyn i edrych beth a welai, ac esgus ganddi wrth law os byddai galw amdano. Mae'n ddiamau y buasai wedi cadw'n ddigon pell petasai'n gwybod bod Robin a Wil yno ers dwyawr, wedi cau'r drws, ac yn trafod mater o bwys.
Dichon nad oedd yn ei bwriad glustfeinio. Beth bynnag am hynny, cafodd hi ei hun yn sefyll o flaen drws caeëdig y bwthyn, ac yn clywed pob gair o'r hyn a ddywedid o'r tu mewn. Ychydig iawn o eiriau oedd yn ddigon i ddangos pa beth oedd ar droed, a phe buasai Madam Wen wrth law y munudau hynny buasai'n ddiamau wedi cael "Oni ddwedais i!" gan Nanni.
Safai wrth y y drws mewn ofn; ofn aros ac eto ofn ymadael. Ofnai ddianc er arswydo bod yno. Ni wyddai pa beth i'w wneud.
Ar flaenau ei thraed, â'i llygad ar y drws, cerddodd at y talcen, ac yna trwm-gamodd yn ôl at y drws gan wneud mwy o dwrw nag oedd raid, a churodd ar unwaith yn drystfawr ar y ddôr. Daeth Wil i agor.
Gan gymryd arni ddisgwyl cael mynd i mewn, yr oedd ei throed ar yr hiniog pan dynnodd yntau'r drws i gau o'i ôl yn araf ac mor ddigyffro ag y medrai. "I ble'r 'rwyt ti'n crwydro ffordd yma!" gofynnodd iddi'n dawel.
"Yn Nhafarn y Cwch y bum i," atebodd hithau. "Ac ar fy ffordd i Gymunod yr ydwyf yn awr."
A chryn gwrs o'r llwybr felly?