Tudalen:Madam Wen.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Nodir y pethau dibwys hyn—os dibwys hefyd—er mwyn egluro'r amgylchiadau a fu am amser yn lluddias Morys Williams rhag myned i ymofyn ei ardreth i ochrau Trefdraeth. Yr oedd siwrnai arall o'i flaen hefyd, taith ac ymweliad wrth ei fodd.

Gwahoddwyd ef i'r Penrhyn, ger Bangor, hen gartref y Gruffyddiaid. Yno disgwyliai gyfarfod â Iliaws o'i gydnabod a chael egwyl o fwyniant ymhlith ei gydradd.

Un bore, cyn codi haul, cychwynnodd i daith ar gefn ei geffyl du, ag ysgrepan ledr yn rhwym wrth y cyfrwy er derbyn a diogelu arian y rhent.

Creadur ardderchog oedd Lewys, ceffyl du Morys Williams. Rhodd ydoedd i'r yswain ieuanc gan ei gâr dysgedig o lys y Brenin. Nid yn fynych y gwelid ei gymar mewn maint a nerth a hoywder. Teilwng gydymaith i Morys fawr ei hun oedd Lewys Ddu, a byddai gweled y ddau'n dynesu, y cawr a'r cawrfil, yn olygfa i'w chofio. Buasai Morys Williams yn rhoddi ei fywyd i lawr dros Lewys unrhyw ddydd, ac y mae lle i gredu na buasai Lewys yn gomedd yr unrhyw aberth dros ei feistr.

Yr oedd llenni nos wedi disgyn ers oriau cyn bod yr yswain yn barod i gychwyn adref, a'r ysgrepan ledr yn drom o arian rhent amaethwyr Trefdraeth. Yr oedd y ffordd yn faith, ac mewn mannau yn ddigon anhygyrch, ac iddi gymeriad drwg, ond nid oedd ofn ar restr nwydau Morys, ac ni theimlai angen cydymaith lle byddai Lewys Ddu. Daethant i derfynau Bettws—y— Grog heb hap na rhwystr. Nid oedd y nos yn dywyll. Ond yno, mewn trofa sydyn yn y ffordd, daeth Morys wyneb yn wyneb â thri o ddynion ar geffylau, yn sefyll ochr yn ochr, megis yn gwarchod y llwybr cul.

Noswaith dda," meddai, gan aros am gyfleustra i fyned heibio iddynt, a heb eto ddychmygu beth oedd eu hamcan. Yr atebiad cyntaf a gafodd oedd tri llaw— ddryll yn cael eu hanelu at ei ben. Rhoddodd yr yswain ei law ar yr eiddo yntau, oedd yn erfyn gwerthfawr,