Tudalen:Madam Wen.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'i newydd-deb yn ddisglair. Wrth syllu yn graffach ar y tri dyn gwelodd fod pob un ohonynt yn gwisgo mwgwd du.

Y gŵr oedd yn y canol a siaradodd gyntaf, ac wrth glywed ei lais daeth i feddwl yr yswain iddo ei gyfarfod o'r blaen. "Os rhoddwch chwi'r ysgrepan ledr yna i ni yn ddi-dwrw, cewch chwithau fyned ymlaen heb niwed."

"Oho!" meddai'r yswain, oedd wedi arfer di-brisio perygl. Yn ddi-dwrw, aie? Pwy ddywedodd wrthyt ti fod gennyf ysgrepan ledr o gwbl?"

Gwyddom yn dda amdani," atebodd y lleidr. Gwyddom beth sydd ynddi. Waeth heb wastraffu mwy o amser."

Chwarddodd Morys, a'i lais mawr yn diasbedain yn nhawelwch yr hwyr. "Beth a ddwedi di, Lewys?" meddai'n chwareus, ond heb dynnu golwg oddi ar y lladron. Gweryrodd y ceffyl yn gyffrous, a dechreuodd symud ei draed yn awyddus. Sylwodd Morys bod un o'r lladron yn ddyn mawr corffol, ym marchogaeth merlyn mwy nag eiddo'r lleill.

Nesaodd y lladron at ei gilydd. Tynhaodd yntau ei afael yn yr afwyn. Trosai a throai'r march du yn ddiamynedd.

"Yr ydym yn disgwyl," meddai'r gŵr canol. "Waeth i chwi yn awr nac eto. Mae rhywun arall yn eich aros ymhellach ymlaen. Fydd yn y fan honno ddim gwastraffu geiriau. Cymerwch fy ngair."

"Ai felly?" meddai yntau, a'i waed yn dechrau twymo. "Mae hi'n gwella, Lewys."

"Paid â hel dail efo fo," meddai'r mwyaf o'r tri lleidr, yn fochynnaidd, ac ar y gair cofiodd Morys iddo weld y gŵr hwnnw wrth simdde fawr Tafarn y Cwch noson yr wyl mabsant.

"Ie," meddai, gorchwyl diflas yw hel dail." Ac ar hynny teimlodd Lewys yr ysbardun, a neidiodd ymlaen, fel pe na buasai merlynod y lladron ond pryfetach yr haf yn ei lwybr. Ac yn y cythrwfl aeth