Tudalen:Madam Wen.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un o'r merlynod i lawr, a thaflwyd y tri i anhrefn, ac meddai Wil Llanfihangel mewn ffwdan a siom, Tân arno fo, Robin!

Clywodd Morys sŵn ergyd megis wrth ei sawdl, a charlamodd Lewys Ddu i lawr y ffordd fel carw o flaen cŵn, a'i bedolau mawr yn taro tân o'r cerrig fel gwreichion oddi ar eingion gof. Ac yn y pellter o'i ôl clywid trwst yr ymlidwyr.

Cyn hir gwelodd llygad craff y march fintai arall o wŷr ar geffylau, digon mewn nifer i lenwi'r ffordd fel nad oedd modd myned rhagddo. Ac ni welai Morys y perygl. Arafodd Lewys ei gamre a gweryrodd yn gynhyrfus, fel pe dywedai nad oedd popeth yn iawn. Ac fel y nesâi, edrychai ar dde ac ar aswy am lwybr o ddihangfa. A deallodd ei feistr fod tramgwydd o'u blaenau. Nid oedd amser i'w golli ychwaith. Yr oeddynt wedi eu dal fel adar mewn rhwyd a'r lladron o'r ddeutu ar eu gwarthaf. Gollyngodd Morys yr afwynau. "Cymer y ffordd a fynni di, Lewys," meddai.

Ar y dde yr oedd gwal gerrig a rhes o goed drain duon, ond ar yr aswy yr oedd clawdd pridd ac arno wrych, pum troedfedd o naid. Dewisodd Lewys y clawdd, a'r lladron ar ei sodlau. Gall mai'r cyffro a'i drysodd, neu hwyrach mai culni'r ffordd oedd yr achos. Trawodd garn ymhen y clawdd a syrthiodd bendramwnwgl i'r ffos yr ochr draw, a Morys yn ymdaenu ar wyneb y maes.

Ond ni bu'r yswain yn hir cyn codi. Neidiodd i fyny a safodd yn ymyl ei farch, a'i ddryll yn ei law, a'i waed yn boeth. Ffroenai frwydr, ac nid oedd ofn arno, ond pryderai wrth weled Lewys yn oedi codi.

Pan welodd y lladron faint yr helynt, teimlent yn hy. Ac nid oedd brys ar Wil ar ôl cael y llaw uchaf fel y tybiai. Coegai ar draul yr yswain, gan ddannod iddo mai ceisio dianc ar draws y meysydd a amcanai. Parhai'r march du i orwedd yn y fan y syrthiasai, ac aeth Morys i deimlo pryder dirfawr.