Tudalen:Madam Wen.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi ychydig ystyriaeth, a'r lladron hwythau yn ymgynghori pa fodd y gweithredent, cymerodd Morys gyllell, ac ar amrantiad yr oedd yr ysgrepan ledr yn rhydd yn ei law. "Hwda, leidr!" meddai, gan ei thaflu dros y gwrych i ganol y ffordd.

Prin y coeliai'r lladron fod yr arian yn eu gafael, a llai na hynny oedd eu dirnadaeth o'r rheswm a wnaeth i'r yswain ymostwng mor rhwydd. Yr oedd Wil wedi dechrau diolch yn goeglyd pan dorrodd Morys ar ei draws: "Gwna di'r gorau ohonynt, a chyn bo hir dof finnau heibio i chwilio am eu gwerth."

Croeso," meddai Wil, a buasai'n dywedyd mwy onibai i Robin y Pandy ofyn iddo gyda llw beth a dalai mân siarad a'r arian yn eu dwylo. Ac ar hynny aeth y fintai ymaith ar garlam.

Beth oedd waeth am yr arian ond cael Lewys Ddu ar ei draed? Yr oedd pum munud o hamdden i weinyddu arno, ac i godi ei galon, yn werth deng mlynedd o rent. Aeth Morys at y gorchwyl yn ddiymdroi, a'i bryder yn fawr.

Onibai am freichiau Heraclaidd ei feistr, yno yn y ffos mewn poenau, a'i goes ymhlyg oddi tano, y buasai Lewys wedi treulio'r noson honno. Ond gydag amynedd mawr ac ymroddiad, a'r ddau yn deall ei gilydd, daeth rhyddhad o'r diwedd.

Buont oriau lawer yn ymlwybro'n flin tuag adre oherwydd cloffni Lewys. Ond o'r diwedd daethant yno, ac meddai'r meistr, "Mi dalwn ni'n llawn am hyn, Lewys."

A chyda'i lygaid mawr synhwyrol atebodd yntau, "Gwnawn, os byddwn byw ac iach."