argraffu un copi mwyach o'r Beibl na'r Testament Cymraeg ar gyfer angen ysgolion Ymneillduol Cymru.
Uchel a thaerion oedd y llefau a gyrhaeddent glustiau a chalon Mr. Charles o bob parth o'r wlad am Feiblau a Thestamentau i'r ysgolion; ond dim un copi o'r naill na'r llall i'w gael am unrhyw bris. Hawdd yw credu i dad cyffredinol ein Hysgolion Sabbothol, arch-apostol addysg Feiblaidd yn Nghymru, yn ei deithiau parhaus i bregethu a chynal Cymanfaoedd Ysgolion mewn gwahanol barthau o'r wlad, gyfarfod â llawer geneth dlawd a brofasai flâs yr addysg Ysgrythyrol a gyfrenid yn yr ysgolion hyn, yn cwynfan yn drist eu henaid o eisieu Beibl. Ond cyfeiriai areithwyr a thraethodwyr Seisnig a Chymraeg, trwy y blynyddau, at ryw un eneth arbenig, yr effeithiasai ei chwynfan a'i dagrau tuhwnt i un arall arno, ac a'i cynhyrfodd i wneyd yr apeliad cofiadwy ger bron pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain, a arweiniodd i sefydliad y Feibl-Gymdeithas. Pwy ydoedd yr eneth arbenig hono—pa beth