Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er fod ganddi tua dwy filldir o ffordd garegog i gerdded o'i chartref yno, un o'r ysgolheigion cyntaf a chysonaf yn y ddwy ysgol, hyd y goddefai tlodi ei rhieni, oedd merch fechan ymofyngar Ty'nyddol. Profai yn y ddwy i'w Chreawdwr ei bendithio â galluoedd meddwl cryfach na'r cyffredin o'i chyfoedion ieuainc yn yr ardal. Hynodai ei hun yn arbenig yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chof, ac adrodd allan yn gyhoeddus, benodau cyfain o Air Duw, ac mewn "deall da" ynddo.

PENOD II.—Mary yn casglu cronfa at brynu Beibl.

FEL miloedd ereill o fythynod tlodion Cymru yn y dyddiau hyny, cyn sefydliad y Feibl Gymdeithas, nid oedd yn Nhy'nyddol yr un Beibl cyflawn. Yr oedd y Beibl Cymraeg a gyhoeddasai y Parch. Peter Williams yn Nhrefecca yn 1790—yr unig Feibl Cymraeg a argraffesid "i'r bobl" er 1769—erbyn hyn yn