Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffordd, er dieithred hefyd y boneddwr y disgwyliai y ffafr fawr ganddo, ac er ansicred ydoedd fod ganddo yntau yr un Beibl i'w werthu iddi wedi iddi fyned ato; eto, mor angerddol, anorchfygol, oedd awydd Mary am feddianu Beibl, fel y penderfynodd anturio y daith a'r rhwystrau hyn oll er ei fwyn.

PENOD III.—Mary yn myned i'r Bala at Mr. Charles i brynu Beibl.

AR foreu hafaidd yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, wele ein harwres fechan o Dy'nyddol yn codi yn blygeiniol iawn, ac yn cychwyn i'w thaith bell tua'r Bala. Cawsai fenthyg wallet i gludo ei thrysor yn ddianaf a diogel adref, os caniatai Nefoedd a Mr. Charles iddi ei dymuniad. Yr oedd ganddi esgidiau i'w rhoddi am ei thraed i fyned i dref y Bala; cludai y rhai hyny yn y wallet ar ei chefn, a cherddai yr holl ffordd i'r Bala yn droednoeth. Mae yn foreu teg odiaeth—yr awel dymherog