heb un Beibl iddi gael. Mae yr holl Feiblau a dderbyniais o Lundain i gyd ar ben er's misoedd, ond rhyw ychydig gopïau sydd yma i gyfeillion yr wyf wedi addaw eu cadw iddynt. Beth a wnaf am Feiblau Cymraeg eto nis gwn."
Traetha Mr. Charles y geiriau hyn gyda'r cydymdeimlad dwysaf; ond trywanant glustiau a chalon ei ymwelyddes ieuanc fel cynifer o bicellau llymion. Drylliant holl ddorau ei chalon. Ymdora allan i wylofain dros yr holl dŷ—blynyddoedd o'r awydd mwyaf hiraethlawn am feddu Beibl cyflawn yn eiddo iddi ei hun blynyddoedd o lafur a phryder yn casglu ei hatlingod i'w thrysorfa fechan tuag at ei brynu—oll fel hyn wedi myned yn ofer—yn gwbl ofer! O! y fath siomiant Na!—aroswch—nid calon o adamant ydyw calon arch-wladgarwr Cymru, tad cyffredinol ein Hysgolion Sabbothol â'u miloedd plant. Gwir ei fod wedi llwyddo i sefyll yn ddewr at ei arfaethau yn ffafr cyfeillion ereill, yn ngwyneb holl daerineb ei hen gyfaill Dafydd Edward dros yr eneth; ond yn awr wele