Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trefniant o wasanaeth anmhrisiadwy a sefydlwyd gan Mr. Charles, tuag at gryfhau ac eangu effeithiolrwydd ei Ysgolion Sabbothol, a lledaenu y chwaeth a'r wybodaeth Feiblaidd sydd byth er hyny mor nodweddiadol o'n cenedl ni, oedd y Cymanfaoedd Ysgolion, tuag at arholi yn gyhoeddus, a symbylu i lafur, liaws o ysgolion gyda'u gilydd. Dilynai Mary Jones y Cymanfaoedd Ysgolion yn yr holl amgylchoedd hyn gyda zel nodedig. Pa bryd neu ymha le bynag y byddai Mr. Charles i gynal Cymanfa yn y parthau hyn o'r sir, nid mynych y siomid ef o weled yr eneth zelog, fyth-ddyddorol hono o Lanfihangel ymysg y dorf o ieuenctyd ger ei fron ynddynt. Pan yn arholi yn gyhoeddus ei ganoedd dysgyblion ieuainc yn y Cymanfaoedd hyny, dywedir wrthym y byddai ei lygaid yn gyffredin ar ei ddysgybles fechan ddeallus o Lanfihangel am yr atebion goreu i'w ofyniadau mwyaf anhawdd mewn hanesiaeth ysgrythyrol; a mynych y cafodd y boddhad o weled y wybodaeth Feiblaidd a gasglasai o'r Beibl a werthasai efe iddi yn trydanu dylanwadau