mawr i'w feddwl tywyll, a chafodd fesur o esmwythder i'w enaid. Edrychai yn ol byth wedi hyn ar hwn fel "y tro mawr" bywydol yn ei hanes ef. Chwenychai ymuno â'r eglwys fechan a sefydlasai y Methodistiaid yn Nghwmlliniau. Gan dybied y byddai eisieu arian at hyny, fel at bobpeth arall yn y byd hwn, gwnaeth ymdrech i gynilo, nes llwyddo i wneyd i fyny haner coron. Ar nos y society aeth at ddrws y ffermdy lle y cyfarfyddid. Safai am ysbaid yno mewn gyfyng—gyngor. Anturiai o'r diwedd daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd,—"Beth sy' arnat ti eisio yma, 'machgen i?"
"Eisio dwad i'r siat, os ca'i; dyma i ch'i haner coron—y cwbl sy' gen' i yn y byd—am ddwad, os ca'i."
"Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim."
Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, "Beth pe bai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?"
"O! gwnawn yn y fan beth bynag a geisiai