Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyn i'r cenhadwr enwog Robert Moffat ddefnyddio yr un llwybr gyda thorf o Affricaniaid duon. Clywsom ef yn ymffrostio gyda hwyl nodedig yn ei orchestwaith yn dysgu y wyddor Seisnig i breswylwyr un o bentrefydd Bechuana, ar hen dôn genedlaethol Scotland, "Auld lang syne," mewn un diwrnod a noswaith. Mor hwyliog ac effeithiol oedd y cynllun cerddorol hwnw fel na oddefwyd i'r athraw gysgu mynyd y noswaith hono. Profai yr un cynllun yn effeithiol nodedig yn mhentref Llanegryn, dan ysbrydoliaeth " Ymgyrch gwŷr Harlech."

Ond prif gamp athrylith a zel yr athraw newydd oedd ei ddyfais i allu addysgu y dosbarth uchaf, heb allu darllen bron ddim ei hun. Cyn yr ysgol ar y Sabbath neu ar y noson waith, gofalai am fyned at chwaer grefyddol a allai ddarllen yn dda—Betti Ifan —i gael gwers ei hun yn y gwersi darllen penodedig i'r ysgol. Ond brydiau eraill llwyddai i gael nifer o ysgolheigion, oeddynt yn ddarllenwyr Cymraeg da, o Ysgol Waddoledig Llanegryn, oedd yn lled uchel ei bri y