Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

feriadau milwrol, neu fel y galwai ef y gwaith, "chwareu soldiers bach," fel y dysgasai efe ei hun gyda'r militia. Pan y deuant at y "Stand at ease," a'r "Attention!" safent oll yn llonydd, ac wele yn y fan weddi fèr drostynt i'r Nef. Ar ddiwedd y cyfarfod, ychwanegid y "Quick march!"—allan.

Mor wir yw, "Where there's a will there's a way." Pa athrylith naturiol pen a all gystadlu mewn dyfeisgarwch âg athrylith ysbrydol cariad calon at Iesu Grist, a llesåd ysbrydol ein cyd-ddynion?

Pan yr oedd Lewis Williams yn gweini ac yn llafurio fel hyn yn Llanegryn, yr oedd Cyfarfod Misol i fod yn Abergynolwyn, a Mr. Charles i fod ynddo. Lletyai Mr. Charles y nos flaenorol gyda'i ysgolfeistr cyflogedig yn Mryncrug, John Jones, Penyparc, gŵr ieuanc llawer uwch ei ddysg a'i gymeriad na'r cyffredin o ysgolfeistriaid yr oes hono. Holai Mr. Charles John Jones, a wyddai am un dyn ieuanc arall yn y parth hwnw a wnai athraw yn ei ysgolion ef. Atebai fod rhyw ddyn ieuanc yn Llanegryn yn llafurus iawn gyda'r