Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sabbothol Dolgellau, a'i fab ysbrydol, Richard Roberts, yn is-ysgrifenydd.

Hoff gylch llafur Lewis Williams oedd yr Ysgol Sabbothol, ymweled âg ysgolion, cynal Cymanfaoedd, a darparu "pynciau " iddynt i lafurio ynddynt. Cangen o addysg yr Ysgol Sabbothol ag yr amlygai ddyddordeb arbenig ynddi oedd darllenyddiaeth. Nid oedd un rhan o "Sillydd" Mr. Charles a dynasai fwy o'i sylw na'i sylwadau yn ei ddiwedd ar yr atalnodau. Dadleuai yn gryf nad oedd pwysigrwydd y nodau bychain hyn i'w farnu o gwbl wrth ei maint. Rhoddai Mr. Charles bwys arbenig arnynt. Hawdd fyddai canfod hyny pan y darllenai y benod ar ddechreu yr oedfa. Mor fanwl y cadwai at y nodau, mor naturiol fyddai newidiadau ei lais, mor gywir ac mor glir fyddai aceniad pob gair, a phwysleisiad pob brawddeg, mor ogoneddus y dygai allan y goludoedd dwyfol o feddwl a theimlad a drysoresid yn y brawddegau a ddarllenai, fel y byddai ei ddarlleniad ef o'r Beibl yn rhyw fesur o gyfiawnder â'r Llyfr ac â'i Awdwr, ac yn wir wledd ysbrydol i bob gwrandawr