Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ls. Morris, 6c. Dan y fath amgylchiadau a hyn y llafuriai ac y llwyddai ein tadau i lanw Cymru âg efengyl Crist!

Pa bryd y dechreuodd "bregethu " nis gwyddai. Yn ei zel angerddol gyda'r Ysgol Sabbothol, a phob rhan o waith yr Arglwydd, yn y gwahanol fanau y symudai iddynt i gadw yr ysgolion cylchynol, mynych y gelwid ef i "ddweyd tippyn" yn y cyfarfodydd gweddi; a chyfodai o'i wely ryw foreu yn 1807 i gael ei ystyried yn "bregethwr." Yn 1815, derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol fel pregethwr, a chydag ef ei fab yn y ffydd, y Parch. Richard Roberts, a'r Parch. Richard Jones, Bala, Pregethwr bychan, diarebol fychan, ydoedd, ac yn wahanol i'r cyffredin o'i frodyr bychain, credai ef hyny. Efe oedd safon pregethwyr bychain yr ardaloedd hyn—hwn a hwn yn bregethwr salach na Lewis William." Credai mae "pregethwr y cwm" ydoedd, fel nad mynych erioed y llwyddwyd i'w gael i bregethu i gynulleidfaoedd mawrion, goleuedig, "y dref." Ond yr oedd ganddo " sounding board" rhagorol o gymeriad y tu cefn i'w