Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er lleied o fanteision addysg a fwynhasai ef ei hun, fel y gwelsom, ni lawenychai neb yn y Cyfundeb yn fwy nag ef ar sefydliad Athrofa y Bala, gan y Mri. Edwards a Charles, yn 1837, a'i llwyddiant dilynol yn anfon allan y fath nifer o weinidogion galluog "wedi eu dysgyblu i deyrnas nefoedd."

Nid â gweddïau rhâd, neu areithiau ac anogaethau gwresog i eraill, y pleidiai Lewis Williams amrywiol sefydliadau a symudiadau teyrnas y Cyfryngwr—nid trwy ganu yn hwyliog, "Aed efengyl ar adenydd dwyfol wynt," heb roddi un ddimai ar y plate tuag at hyny—y dangosai ef ei zel genhadol. Byddai ei rodd ef yn wastad mor barod a'i weddi, ei esiampl mor barod a'i anogaeth, gyda holl achosion y deyrnas fawr. Cyfrifid ef "y lleiaf o'r holl apostolion" o ran ei ddoniau pregethwrol, o fewn cylch ei Gyfarfod Misol. Ond os edrychid arno oll yn oll, yn ei lafur dyfal trwy oes faith gyda'r ysgolion dyddiol a Sabbothol, fel llyfrwerthwr a phregethwr, ac fel pleidiwr gwresog a ffyddlawn nodedig, mewn gair a gweithred, i bob achosion cref-