Tudalen:Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o nwyddau ar yr un pryd, ac yn eu mysg ryw gymaint o frethyn neu gotwm. Rhoddid y darn brethyn dewisedig ar y counter o'i flaen, a'r ffon llath, iddo fesur a thori ei hun yr hyn a fynai o hono, tra y parotoent hwy y gweddill o'r nwyddau. Yr un peth yn ngolwg meistriaid a gweision y "Shop Newydd" fuasai ameu gonestrwydd yr archangel Gabriel, o'r Nef, a gonestrwydd eu hen gwsmer, Lewis Williams, o Lanfachreth. Yn 1858, ymneillduodd ef a'i briod i orphwys oddiwrth eu llafur bydol, a mwynhau mewn tangnefedd ffrwyth bendith y Nefoedd ar eu llafur. Hyfrydwch i ni fuasai rhoddi lliaws o engreifftiau dyddorol o zel ein hen gyfaill dros achos ei Arglwydd yn ystod 38 mlynedd ei fywyd yn Llanfachreth. Ond rhaid boddloni ar geisio rhoddi rhyw syniad arwynebol fel hyn am hen athraw Mary Jones—"y ffyddlawn Lewis Williams." Cawsom y rhan fwyaf o'r ffeithiau a gofnodir yn y llyfryn bychan hwn am dano ef a'i ddysgybles ddyddorol, o'i enau ef ei hun, ar wahanol adegau wrth ei wely, yn ystod wythnosau ei gystudd diweddaf, pan yr oedd