Gwirwyd y dudalen hon
- (d) unrhyw ddisgowntiau am wneud taliadau cynnar neu gosbau am wneud taliadau hwyr,
- (e) hawliau apelio, ac
- (f) canlyniadau peidio â thalu.
- (5) Rhaid i ddarpariaeth yn unol ag is-baragraff (1) (e) sicrhau bod y seiliau y caniateir i berson apelio arnynt yn erbyn penderfyniad gan yr awdurdod gorfodi yn cynnwys y canlynol—
- (a) bod y penderfyniad wedi ei wneud ar sail camgymeriad ffeithiol;
- (b) bod y penderfyniad yn anghywir o ran y gyfraith;
- (c) bod y penderfyniad yn afresymol.
Gofynion yn ôl disgresiwn
4 (1) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n rhoi’r pŵer i awdurdod gorfodi osod, drwy hysbysiad, un neu ragor o ofynion yn ôl disgresiwn ar berson sy’n torri rheoliadau diogelwch.
- (2) Ni chaiff y rheoliadau roi’r cyfryw bŵer ond mewn perthynas ag achos pan fo’r awdurdod gorfodi wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd fod y rheoliadau wedi eu torri.
- (3) At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “gofyniad yn ôl disgresiwn” yw—
- (a) gofyniad i dalu cosb ariannol i awdurdod gorfodi o swm y caniateir i’r awdurdod gorfodi ei benderfynu, neu
- (b) gofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan awdurdod gorfodi, cyn pen cyfnod a bennir gan yr awdurdod gorfodi, er mwyn sicrhau nad yw’r toriad yn parhau neu’n digwydd eto.
- (4) Yn yr Atodlen hon—
- ystyr “cosb ariannol amrywiadwy” yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3)(a);
- ystyr “gofyniad heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn” yw gofyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) (b).
- (5) Rhaid i’r rheoliadau, mewn perthynas â phob math o doriad o reoliadau diogelwch y caniateir gosod cosb amrywiadwy amdano—
- (a) pennu’r gosb uchaf y caniateir ei gosod am doriad o’r math hwnnw, neu
- (b) darparu am benderfynu’r gosb uchaf honno yn unol â’r rheoliadau.
- (6) Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu gosod gofynion yn ôl disgresiwn ar berson ar ragor nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anwaith. Gofynion yn ôl disgresiwn: y weithdrefn
5 :(1) Rhaid i ddarpariaeth o dan baragraff 4 sicrhau—
- (a) pan fo awdurdod gorfodi yn bwriadu gosod gofyniad yn ôl disgresiwn ar berson, bod rhaid i’r awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad o’r hyn a fwriedir :(“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw a’r hysbysiad hwnnw yn cydymffurfio ag is-baragraff (2),