Gwirwyd y dudalen hon
Cosbau ariannol
13 (1) Os yw’r rheoliadau yn rhoi pŵer i awdurdod gorfodi i’w gwneud yn ofynnol i berson dalu cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio o dan baragraff 6(1), cânt gynnwys darpariaeth—
- (a) am ddisgowntiau talu’n gynnar;
- (b) am dalu llog neu gosbau ariannol eraill am dalu’r gosb yn hwyr, a chyfanswm y llog hwnnw neu’r cosbau ariannol eraill hynny heb fod yn fwy na swm y gosb honno;
- (c) am orfodi’r gosb.
- (2) Caiff darpariaeth o dan is-baragraff (1)(c) gynnwys—
- (a) darpariaeth i’r awdurdod gorfodi adennill y gosb, ac unrhyw log neu gosb
ariannol arall am dalu’n hwyr, fel dyled sifil;
- (b) darpariaeth i’r gosb, ac unrhyw log neu gosb ariannol arall am dalu’n hwyr fod
yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel petai’n daladwy o dan orchymyn llys.