Tudalen:Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
(3) Mae'r deddfiadau hynny'n cynnwys deddfiadau sy'n gwneud y canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt)—
(a) ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
(b) rhoi hawl i siarad Cymraeg mewn achosion cyfreithiol yng Nghymru;
(c) rhoi statws cyfartal i destunau Cymraeg a Saesneg—
(i)Mesurau a Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
(ii) is-ddeddfwriaeth;
(d) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu strategaeth sy'n nodi sut y maent yn bwriadu hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
(e) creu safonau ymddygiad sy'n ymwneud â defnyddio'r Gymraeg, neu â pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, mewn cysylltiad—
(i) â chyflenwi gwasanaethau,
(ii) â llunio polisi, a
(iii) ag arfer swyddogaethau neu gynnal busnesau neu ymgymeriadau eraill;
(f) creu safonau ymddygiad o ran hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg;
(g) creu safonau ymddygiad ar gyfer cadw cofnodion mewn cysylltiad â'r Gymraeg;
(h) gosod dyletswydd i gydymffurfio â'r safonau ymddygiad hynny sy'n cael eu creu, a chreu rhwymedïau am fethiannau i gydymffurfio â hwy; ac
(i) creu swydd Comisiynydd y Gymraeg a chanddi swyddogaethau sy'n cynnwys—
(i) hybu defnyddio'r Gymraeg,
(ii) hwyluso defnyddio'r Gymraeg,
(iii) gweithio tuag at sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg,
(iv) cynnal ymholiadau i faterion sy'n ymwneud â swyddogaethau'r Comisiynydd, a
(v) ymchwilio i ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg.
(4) Nid yw'r Mesur hwn yn effeithio ar statws y Saesneg yng Nghymru.