Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- (i)
- Comisiynydd Pobl Hyn
- ˆ Cymru;
- (j)
- ombwdsmon tai a benodwyd yn unol â chynllun o dan adran 51 o
- Ddeddf Tai 1996;
- (k) cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;
- (l)
- cyngor ar gyfer sir neu ddosbarth yn Lloegr;
- (m) cyngor ar gyfer un o fwrdeistrefi Llundain;
- (n) prif gwnstabl o'r heddlu ar gyfer ardal heddlu;
- (o) prif gwnstabl Heddlu Trafnidiaeth Prydain;
- ystyr “ymchwiliad i orfodi safonau” (“standards enforcement investigation”) yw
- ymchwiliad a wneir gan y Comisiynydd o dan adran 71.
- (10) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn ddiwygio'r diffiniad o “person a
- ganiatawyd” yn is-adran (9)—
- (a) drwy ychwanegu person;
- (b) drwy hepgor person;
- (c) drwy newid disgrifiad o berson.
- (11) Cyn gwneud gorchymyn o dan is-adran (10), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori
- â'r person o dan sylw ac ag unrhyw bersonau eraill y mae'n briodol ymgynghori â
- hwy yn nhyb Gweinidogion Cymru.
- RHAN 3
- PANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG
- 23
- Y Panel Cynghori
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn aelodau o banel o gynghorwyr
- i'r Comisiynydd.
- (2) Mae'r panel i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y
- Mesur hwn fel y “Panel Cynghori”).
- (3) I'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3
- ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg.
- (4) Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau'r Panel Cynghori.
- 24
- Ymgynghori
- (1) Caiff y Comisiynydd ymgynghori â'r Panel Cynghori ynghylch unrhyw fater.
- (2) Nid yw darpariaethau eraill y Mesur hwn sy'n darparu i'r Comisiynydd ymgynghori
- â'r Panel Cynghori yn cyfyngu ar is-adran (1).
- (3) Mae cyfeiriadau yn y Mesur hwn at ymgynghori â'r Panel Cynghori yn gyfeiriadau at
- ymgynghori ag unrhyw un neu ragor neu'r oll o aelodau'r Panel.