Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- 34 Personau sy'n dod o fewn Atodlenni 5, 6, 7 ac 8
- (1) Mae person yn dod o fewn Atodlen 5 os yw'r person yn dod o fewn categori o
- bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 5.
- (2) Mae person yn dod o fewn Atodlen 6 os yw'r person—
- (a) yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 6, neu
- (b) yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.
- (3) Mae person yn dod o fewn Atodlen 7 os yw'r person yn dod o fewn categori o
- bersonau a bennir yng ngholofn (2) o'r tabl yn Atodlen 7.
- (4) Mae person yn dod o fewn Atodlen 8 os yw'r person—
- (a) yn cael ei bennu yng ngholofn (1) o'r tabl yn Atodlen 8, neu
- (b) yn dod o fewn categori o bersonau a bennir yn y golofn honno.
- (5) Nid yw newid enw person a bennir yn Atodlen 6 neu yn Atodlen 8 yn effeithio ar
- weithredu'r Mesur hwn mewn perthynas â'r person.
- (6) Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at gofnod person yn y tabl yn Atodlen 6 neu yn y tabl
- yn Atodlen 8 yn gyfeiriadau at y cofnod yn y tabl hwnnw (yng ngholofn (1)) sy'n
- pennu—
- (a) P, neu
- (b) categori o bersonau y mae P yn dod oddi mewn iddo.
- (7) Mae'r adran hon yn gymwys at ddibenion y Mesur hwn.
- 35
- Diwygio personau a chategorïau a bennir yn Atodlenni 6 ac 8
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 a'r tabl yn
- Atodlen 8 yn unol â'r adran hon.
- (2) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn (1) yn
- cynnwys cyfeiriad—
- (a) at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 5, neu
- (b) at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r
- categorïau yn Atodlen 5.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Atodlen 6 drwy ddileu unrhyw gyfeiriad yng
- ngholofn (1).
- (4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 fel bod colofn (1) yn
- cynnwys cyfeiriad—
- (a) at berson sy'n dod o fewn un neu ragor o'r categorïau yn Atodlen 7, neu
- (b) at gategori o bersonau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o'r
- categorïau yn Atodlen 7.
- (5) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio'r tabl yn Atodlen 8 drwy ddileu unrhyw
- gyfeiriad yng ngholofn (1).
- (6) Caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau eraill i'r tabl yn Atodlen 6 neu i'r tabl
- yn Atodlen 8, neu i unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn, sy'n briodol yn eu tyb
- hwy mewn cysylltiad â phwerau yn unrhyw un neu ragor o is-adrannau (2) i (5), at
- ddibenion y pwerau hynny, neu o ganlyniad i'r pwerau hynny.