Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
- Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio
- 52 Cyhoeddi hysbysiadau cydymffurfio
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas â phob hysbysiad cydymffurfio sydd
- mewn grym.
- (2) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, o'r diwrnod gosod perthnasol ymlaen—
- (a) bod copi o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael i'w archwilio yn swyddfa'r
- Comisiynydd, a
- (b) y perir bod copïau o'r hysbysiad cydymffurfio ar gael mewn mannau eraill a
- thrwy ddulliau eraill (gan gynnwys dulliau electronig) sy'n briodol yn nhyb y
- Comisiynydd.
- (3) Os bydd person yn gwneud cais i'r Comisiynydd o dan Bennod 7 mewn cysylltiad â
- safon rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y copïau o'r hysbysiad cydymffurfio y
- parwyd iddynt fod ar gael yn unol ag is-adran (2) yn nodi, hyd nes bod y cais wedi ei
- ddyfarnu'n derfynol—
- (a) bod y cais wedi ei wneud, a
- (b) nad yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safon yn gymwys, yn rhinwedd adran 60
- (os dyna'r sefyllfa).
- (4) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau bod y trefniadau ar gyfer archwilio a chael at
- hysbysiadau cydymffurfio yn cael eu cyhoeddi mewn modd sy'n dwyn y trefniadau
- hynny i sylw personau sy'n debygol yn nhyb y Comisiynydd o fod yn bersonau a
- chanddynt fuddiant mewn archwilio a chael at hysbysiadau cydymffurfio.
- (5) Yn yr adran hon, ystyr “diwrnod gosod perthnasol” yw—
- (a) os dim ond un diwrnod gosod sydd wedi ei nodi mewn hysbysiad
- cydymffurfio, y diwrnod gosod hwnnw;
- (b) os oes dau neu ragor o ddiwrnodau gosod wedi eu nodi yn yr hysbysiad
- cydymffurfio, y cynharaf o'r diwrnodau hynny.
- Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i ben
- 53 Gofyniad i gydymffurfio â safon yn dod i ben
- (1) Mae'r adran hon yn gymwys mewn unrhyw achos pan fydd person (P) yn peidio â
- bod o dan y ddyletswydd yn adran 25(1) i gydymffurfio â safon oherwydd—
- (a) bod un neu ragor o amodau 1 i 3 yn adran 25 yn peidio â chael ei fodloni neu
- eu bodloni, neu
- (b) bod y safon yn peidio â chael ei phennu gan Weinidogion Cymru o dan adran
- 26(1).
- (2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r adran hon fod yn gymwys, rhaid i'r
- Comisiynydd, drwy arfer y pwerau a roddir gan y Bennod hon, sicrhau bod y newid
- a ddisgrifir yn is-adran (1) yn cael ei adlewyrchu yn yr hysbysiadau cydymffurfio (os
- bydd rhai) sy'n parhau mewn grym mewn perthynas â P.