Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Powel, Stephen Hughes, a Peregrine Phillips; Morgan Llwyd, a Rhys Pritchard, a Hugh Owen. Ond yr oedd y gwŷr hyn oll wedi colli oddiar y maes, ac wedi dianc adref er ys maith amser: nid oedd olynwyr teilwng iddynt wedi codi ar eu hol, i ddyfrhau yr hyn a blanesid ganddynt hwy, ac i berffeithio y gwaith a ddechreuasid mor ganmoladwy ganddynt.

Fe fu pregethau y naill o'r gwŷr hyn, ac eraill llai eu cyfrif, ac ysgrifeniadau y lleill, yn ddiau yn fendithiol dros ben i'r genedl; eto, ni pharodd llafur yr un o honynt, na'r cwbl yn nghyd, ddim ysgogiad cyffredinol a pharhaol; ac erbyn dechre 1700, yr oedd ol eu llafur ymron wedi colli. Aethai heibio, bellach, rai ugeiniau o flynyddoedd, er pan roddwyd y gwŷr hynod hyny mewn dystawrwydd trwy ddwylaw marwolaeth; a chan na fu iddynt ddylynwyr teilwng, disgynodd y wlad i'r un agwedd dywell a marwaidd ag y bu gynt ynddi. Yr oeddynt hwy yn llusernau dysglaer yn eu hadeg, ac yn gwasgar eu goleuni i raddau rhyfeddol y ffordd yr elent; eto, nid aeth yn ddydd. Trwy eu llafur ffyddlawn hwy, rhoddwyd ysgytiad cyffrous i'r genedl gysglyd; agorodd eu llygaid am enyd; ond syrthiodd i'r un marweidd-dra drachefn. Ond yr oedd gwawr y bore, bellach, yn nesau, yr adeg ag y byddai pelydrau goleuni yr efengyl yn cyrhaedd yr holl dywysogaeth.

Nid oedd y diwygiad Methodistaidd eto wedi cyrhaedd Gwynedd. Yr oedd y cyffro wedi dechreu, fel y gwelwn, yn rhyw barthau o'r Deheudir, a rhyw ddarpariadau cychwynol yn y Gogledd trwy ledaeniad yr ysgrythyrau, a thrwy yr ysgolion rhad cylchynol dan olygiad y Parch. Griffith Jones; eto, nid oedd Methodistiaeth, fel y cyfryw, wedi blaguro yn Ngwynedd.

Yr oedd gwedd isel iawn ar grefydd yn mhob cwr o Wynedd. Yn y llanau, nid oedd ond ychydig o rith pregethu; a phan y byddai pregeth yn cael ei thraddodi, nid oedd ynddi ond prin rith efengyl. Yr oedd y clerigwyr, ar y cyfan, wedi syrthio i'r graddau iselaf o dywyllwch, marweidd-dra, ac anfoes. Ar y pryd hwn hefyd, nid oedd ond chwech o gynulleidfaoedd ymneillduol trwy holl Wynedd,—dwy yn Ngwrecsam, un yn Llanfyllin, un yn Ninbych, un yn Newmarket, sir Fflint, ac un yn Mhwllheli, swydd Gaernarfon. At y rhai hyn, fe chwanegwyd yn fuan, gynulleidfaoedd Llanbrynmair,[1] a Llanuwchlyn. Nid oedd hyn ond nifer bychan iawn, i angen yr holl wlad; a nifer bychan iawn hefyd i'w gydmharu i'r hyn ydyw y nifer bresenol.

Yr oedd llafur rhai gwŷr hynod yn mhlith yr ymneillduwyr wedi bod yn foddion i ysgogi rhai dynion mewn amrywiol ardaloedd, i ymofyn am grefydd a duwioldeb; eto, er hyn oll, nid oedd eu nifer ond ychydig, a'u manteision ond prinion iawn. Nid oedd y tân santaidd wedi llwyr ddiffodd ar eu haelwydydd, a bu yr awelon cryfion a ddylynai gweinidogaeth y diwygwyr Methodistaidd, yn foddion i roddi enyniad adnewyddol yn y marwor. Nid

  1. Fe allai fod eglwys fechan gan yr ymneillduwyr yn Llanbrynmair mor gynar a dechreu 1700.