Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd cymaint o sylw y pryd hyny ar y gwahaniaeth oedd rhwng y naill blaid a'r llall, ond ar y gwahaniaeth oedd rhwng y byw a'r marw o bob plaid; hyn a dynai sylw, ac a ennillai serch pob un deffro yn ei enaid. Nesâai dynion duwiol, a deffro yn eu heneidiau, at eu gilydd, o ba enwad bynag, a chiliai y byw a'r marw oddiwrth eu gilydd, er bod o'r un cyfundeb. Yr oedd mwy o gymundeb rhwng Mr. Pugh, yr ymneillduwr, a Mr. Rowlands, yr eglwyswr, nag oedd rhwng yr un o honynt a'i frodyr enwadol ei hun, y rhai nid oedd arnynt gymaint o arwyddion ysbryd a bywyd yr efengyl. Yr oedd Richard Tibbot, a Lewis Rees o Lanbrynmair, yn ymgydnabod â phob dyn, o ba enwad bynag, os byddai arwyddion o oruchwyliaeth yr efengyl ar ei ysbryd. Yr oedd Jenkin Morgan, ysgolfeistr dan olygiad y Parch. Griffith Jones, ac felly yn dwyn rhyw berthynas â'r llan, mewn sylw ac anwyldeb gan yr ymneillduwr Lewis Rees, gan y deallai fod llaw yr Arglwydd arno. Yr oedd ychydigrwydd nifer y duwiolion, a'r ymosod beunyddiol a wneid arnynt trwy flinderau a gwaradwyddiadau, yn foddion y pryd hyny i'w dynesu hwy at eu gilydd. Delw Crist, ac nid nôd gwahaniaethol sect, a gyfrifid ganddynt yn y tymhor hwnw, fel y dylid ei gyfrif yn awr, o wir werth a phwys.

Ond er nad oedd ond ychydig iawn o dduwiolion i'w cael y pryd y cyfeiriwn ato, yn enwedig yn Ngogledd Cymru; eto, yr oedd yma "ychydig enwau," y rhai y mae perarogledd eu crefydd wedi bytholi eu coffadwriaeth hyd heddyw, a'r rhai y gellid eu golygu fel blagur cynar yn rhagflaenu tŵf y gwanwyn. Fe ddyry Mr. Robert Jones i ni enw un John Roberts, o Nant Gwtheyrn, gerllaw Nefyn, fel un a gawsai ryw adnabyddiaeth o werth duwioldeb, pryd nad oedd ymron neb o gyffelyb feddwl iddo yn ei holl fro. "Breuddwydiodd y gŵr hwn ei fod yn gweled pen yn dyfod oddiwrth y deau, ac yn goleuo'r wlad, yn llefain hefyd nes bod cyffro a deffroad trwy yr ardaloedd." Suddodd y breuddwyd hwn i'w galon, a pharodd iddo ddysgwyl y deuai rhyw ddiwygiad crefyddol i'r wlad cyn hir amser. Ac er mai trwy freuddwyd y codwyd y fath ddysgwyliad, eto fe droes allan yn gywir. Diwygiad a ddaeth; a chafodd John Roberts brofiad sylweddol o hono ei hunan, ac a fu yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw hyd ddiwedd ei oes. Crybwyllir hefyd am un Francis Evans o'r Pen-y-cae-newydd, fel dyn hynod mewn duwioldeb. Ymneillduwr oedd y gŵr hwn, ac arferai ddarllen a gweddio gyda'i deulu, yr hyn a osodai arwydd o hynodrwydd arno, mewn tymhor nad oedd gweddi deuluaidd ddim i'w chael trwy yr holl wlad.

Dygwyddodd amgylchiad cysylltiedig â gwaith Francis Evans yn addoli yn ei deulu, na ddylid ei adael allan, am ei fod yn ddolen neillduol yn y gadwen ragluniaethol i ddwyn Methodistiaeth i siroedd Arfon a Mon. Yr amgylchiad oedd fel y canlyn:

Yr oedd yn byw mewn tyddyn o'r enw Glasfryn—fawr, gerllaw Pwllheli, ŵr o'r enw William Pritchard. Ganesid ef yn y Bryn-rhydd yn y fl. 1702, a chafodd ei addysgu yn helaethach na'r cyffredin bobl yn ei oes, mewn Cymraeg, Saesonaeg, a pheth Lladin. Yr oedd yn arferiad y pryd hyny, gan fagad o'r plwyfolion, fyned i'r dafarn ar ol y gosber i fod yn llawen, ac i